Prosiect i hybu twristiaeth yn derbyn arian Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect newydd sy'n gobeithio rhoi hwb i dwristiaeth yng Nghymru ac Iwerddon wedi derbyn grant o €1.9m gan yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Lywodraeth Cymru mai bwriad y cynllun yw ailddarganfod treftadaeth y seintiau canoloesol cynnar - Dewi Sant a'i ddisgybl Sant Aidan.
Mae Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn cael ei gofio yn ninas Tyddewi, Sir Benfro, tra bod gan Sant Aidan gysylltiadau agos ag ardal Wexford yn Iwerddon.
Nod y prosiect - sy'n cael ei ariannu am dair blynedd - yw defnyddio'r hanes i ddenu ymwelwyr newydd i'r cymunedau arfordirol yma ac uno'r ddwy gymuned.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y prosiect yn "rhoi hwb i dwf economaidd yn y ddau ranbarth drwy waith adfywio, prosiectau diwylliannol ac addysgiadol a mentora rhwng busnesau".
'Esiampl wych o arian yr UE'
Mae cynlluniau ar y gweill i adfywio ffynnon y Santes Non yn Nhyddewi - man geni honedig Dewi Sant - a bydd gweithiau celf parhaol yn cael eu comisiynu yn y ddwy ardal gyda themâu cyfatebol.
Bydd ysgolion yn cymryd rhan mewn prosiect ar y cyd i adrodd stori'r ddau sant, a bydd cyfle i ddisgyblion ymweld â'r wlad bartner.
Dywedodd Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, bod y prosiect yn "esiampl wych o'r ffordd y gallwn ddefnyddio arian yr UE i helpu ardaloedd trawsffiniol yn Iwerddon a Chymru".
"Drwy rannu gwybodaeth a phrofiad, ein gobaith yw y bydd hyn yn sbarduno'r economi ac yn creu ac yn diogelu swyddi yn y sectorau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth," meddai.
"Yng ngoleuni Brexit, mae hi nawr yn bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi ac yn dathlu'r ddolen Geltaidd gref rhwng y ddwy wlad."
Dywedodd Gweinidog Cyllid, Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon, Paschal Donohoe TD, y bydd y prosiect yn "hybu dealltwriaeth o'r hanes rydyn ni'n ei rannu ac yn cefnogi datblygiad twristiaeth er lles ein dwy wlad".