Cyn-lywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ymddeol
- Cyhoeddwyd
Mae un o wynebau cyfarwydd pêl-droed yng Nghymru wedi cyhoeddi ei ymddeoliad fel cennad rhyngwladol i'r gêm.
Dros y chwe blynedd diwethaf, mae Trefor Lloyd Hughes wedi cynrychioli'r corff gweinyddol UEFA mewn nifer o gemau mawr Ewropeaidd yn cynnwys ffeinal Cynghrair Ewropa yn 2014.
Mae'r cyn-yrrwr ambiwlans o Gaergybi wedi gweinyddu'r gêm ar bob lefel dros y blynyddoedd, a dywedodd mai oherwydd ei oedran a'i iechyd y mae wedi penderfynu ymddeol.
"Dydi fy iechyd ddim wedi bod yn wych dros y blynyddoedd diwethaf, a dwi'n 70 rŵan, felly roedd rhaid i rywbeth newid," meddai.
"Tra'i bod yn anrhydedd arbennig, mae'r holl deithio yn cael effaith, ac er mai am ddau neu dri diwrnod ar y tro y byddaf i ffwrdd fel arfer, mae o wedi mynd braidd yn ormod."
Mae Mr Hughes hefyd yn gynghorydd ar Gyngor Sir Ynys Môn, ac yn aelod o Gyngor Tref Caergybi.
Derbyniodd yr OBE yn 2016 am ei wasanaeth i bêl-droed ym Môn.
Dechreuodd ei gysylltiad â phêl-droed, pan oedd yn 15 oed, a byddai'n mynd o ddrws i ddrws i werthu tocynnau i godi arian i'w glwb lleol, Bodedern.
Yn fuan iawn roedd o'n gwneud popeth, bron, yn y clwb, o osod y rhwydi i chwarae i'r tîm a hyd yn oed i redeg y bath ar ddiwedd y gêm.
Gemau cofiadwy
Bu'n aelod o gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers 1989.
Bu'n Llywydd y Gymdeithas rhwng 2012 a 2016, ac mae hefyd wedi bod yn drysorydd ac is-lywydd hŷn.
Mae'n bwriadu parhau fel Is-Lywydd Oes efo'r gymdeithas, yn ogystal â'i waith gweinyddol efo Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru, a'i waith fel cynghorydd.
Yn ôl Mr Hughes, uchafbwynt ei dymor fel cennad UEFA oedd eu cynrychioli yn rownd derfynol Cynghrair Ewropa rhwng Benfica a Sevilla yn 2014, gafodd ei chwarae yn Turin.
Mae'r gemau cofiadwy eraill yn cynnwys gêm ryngwladol rhwng Sbaen a Lwcsembwrg yn 2015, a gêm Cynghrair Ewropa rhwng Borussia Dortmund a Wolfsburg yn yr un flwyddyn.
"Ffeinal Cynghrair Ewropa oedd y pinacl, heb os," meddai.
"Er y pwysau, mae hi'n anrhydedd bod yn rhan o rywbeth fel 'na.
"Ond wedi dweud hynny, dwi'n cael yr un faint o bleser yn gwylio timau lleol ar brynhawn Sadwrn a gwneud be' fedra'i i helpu timau'r ynys a thu hwnt.
"Gobeithio bod rhai o sêr pêl-droed Cymru'r dyfodol yma ar ein stepan drws."