Llywydd FA Cymru 'wedi ystyried ymddiswyddo'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cyfaddef ei fod wedi ystyried ymddiswyddo, ond ei fod wedi newid ei feddwl ar y funud olaf.
Mae Trefor Lloyd Hughes yn anfodlon iawn gyda phenderfyniad Cyngor y Gymdeithas i beidio â thrafod dyfodol Llanelli a'r Barri, sydd wedi'u gwahardd o'r gymdeithas.
Ar raglen Ar y Marc fore dydd Sadwrn, dywedodd Mr Hughes ei fod wedi cael wythnos "anodd iawn" ond ei fod wedi penderfynu aros fel Llywydd y gymdeithas funudau cyn mynd ar yr awyr.
"O'n i'n chwarae yn y tŷ efo fy nai ac mi ges i alwad ffôn o'r Barri a dyma fi'n dweud be' o'n i'n wneud efo'r plentyn. A medda' fo - yli, meddwl am y plentyn bach yna i'r dyfodol. Os ei di o' 'na, fydd 'na ddim gobaith o newid y gymdeithas. Ac mi wnaeth hynny'n hitio i dwi'n meddwl," meddai.
"Hefyd, wrth gwrs, wrth fynd i Fachynlleth nos Fawrth i weld tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn erbyn Machynlleth i godi arian i April Jones, a siarad hefo mam April, mi ddudes i wrtha' i fy hun - be ydy pêl-droed i mi? Mae 'na bobl yma'n waeth allan na fi.
"Nos Fercher es i i gyfarfod yn Wrecsam a dyma 'na fachgen yn dod ata' i newydd basio ei arholiad dyfarnwr a hwnnw yn anabl. Pethau fel 'na sy'n gwneud i mi aros."
'Drwg i bêl-droed'
Mae Mr Hughes wedi bod yn Llywydd ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru ers 1989.
Yn gynharach yn yr wythnos roedd wedi dweud fod penderfyniad cyngor y gymdeithas i wrthod ystyried tystiolaeth newydd yn ymwneud â'r penderfyniad i wahardd Y Barri a Llanelli o'r gynghrair yn "ddrwg i bêl-droed".
Doedd Cymdeithas Pêl-droed Cymru ddim ar gael i wneud sylw ar y mater.
Fe ddechreuodd yr helbul presennol pan benderfynodd y cyngor wrthod cais Y Barri a Llanelli i gael ail-ymuno a chynghrair Cymru wedi i'r ddau dîm gwreiddiol gael eu diddymu.
Roedd perchennog clwb Y Barri wedi tynnu'r tîm allan o'r gynghrair gyda dwy gêm ar ôl i chwarae yn dilyn blynyddoedd o drafferthion oddi ar y cae.
Ers hynny mae pwyllgor cefnogwyr y clwb wedi cymryd yr awenau - eu dadl nhw yw y dylen nhw gael ymuno a chynghrair Cymru gan nad eu bai nhw oedd bod y perchennog wedi eu tynnu o'r gynghrair.
Roedden nhw'n disgwyl y byddai nhw'n cael eu tynnu o'r adran gyntaf a'i rhoi yn y drydedd adran.
Roedd amgylchiadau Llanelli yn wahanol - fe gafodd eu clwb nhw ei ddirwyn i ben yn yr Uchel Lys oherwydd dirwy o £21,000.
Penderfynodd Cyngor y Gymdeithas Pêl-droed y byddai'n rhaid i'r ddau glwb ddechrau o'r dechrau, gan chwarae pêl-droed ar lefel "gemau parc".
Dyw'r cyngor erioed wedi esbonio'r penderfyniad.
'Angen newid'
Mae'r BBC yn deall mai un bleidlais gymrodd y cyngor ar y mater ar gyfer y ddau glwb er bod eu hamgylchiadau yn gwbl wahanol.
Fe ddaeth y newyddion eu bod wedi eu gwahardd o'r gynghrair yn gyfan gwbl yn sioc i Bwyllgor Cefnogwyr Y Barri - dywedodd y pwyllgor fod y newyddion wedi eu "syfrdanu".
Roedd y gymdeithas wedi gofyn i'r cyngor edrych eto ar y penderfyniad ac wedi trefnu iddyn nhw gyfarfod yng Nghaersws ddydd Mawrth.
Ond gwrthododd y cyngor ymatal y rheolau sefydlog er mwyn galluogi i'r mater gael ei drafod o 15 pleidlais i 14 - roedd angen i ddau-draean o'r pwyllgor bleidleisio o blaid.
Dywedodd Mr Hughes ar raglen Ar y Marc ei fod eisiau gweld y gymdeithas yn newid ond nad oedd yn sicr a fyddai hynny'n digwydd, er gwaetha' ymgynghoriad diweddar ar newidiadau posib.
"Mae 'na rywbeth mawr yn digwydd mis nesa'. Ers tua chwe mis, 'dan ni'n sbio ar governance y gymdeithas i geisio newid pethau...Trio cael mwy o bobl ifanc i mewn i'r gymdeithas, newid y ffordd mae pleidleisio'n mynd ymlaen mewn cyfarfodydd a hyn a'r llall...Ond dwi'm yn siwr eith hynny drwodd...Dwi ddim yn meddwl mai fi fydd yr unig un eith chwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2013