Achub 200 o anifeiliaid mewn cyrch yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae dros 200 o anifeiliaid wedi eu cymryd o leoliad yn Sir Benfro oherwydd pryder am eu lles, meddai'r cyngor sir.
Cafodd 80 o ddefaid, 58 ci, 53 mochyn, 20 ceffyl, tair gafr ac asyn eu cymryd i fannau diogel gan swyddogion.
Yn ôl Cyngor Sir Penfro fe wnaeth y cyrch ar safle Lon y Fferi yn Noc Penfro gymryd dau ddiwrnod i'w gwblhau.
Daw yn sgil dau arést yr wythnos diwethaf oedd yn ymwneud â difa anifeiliaid yn anghyfreithlon ar gyfer cyflenwi 'smokies' - math o gig sydd wedi ei wahardd.
Mae'r cyngor ac asiantaethau eraill yn chwilio am gartrefi newydd i'r anifeiliaid.
Dywedodd y Cynghorydd Pat Davies, aelod cabinet â chyfrifoldeb am wasanaethau rheoleiddio, fod swyddogion wedi wynebu amgylchiadau heriol.
"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth gan Heddlu Dyfed-Powys ynghyd ag ymddiriedolaeth y Dogs Trust ac eraill - heb eu cymorth nhw ni fyddwn wedi bod yn llwyddiannus."
Yn y cyfamser, meddai, mae swyddogion y cyngor yn parhau i archwilio'r safle.