Treialu ap i helpu cleifion ffisiotherapi wella adref
- Cyhoeddwyd
Mae technoleg newydd sydd â'r potensial i drawsnewid y ffordd y mae cleifion yn gwella ar ôl cael clun neu ben-glin newydd yn cael ei threialu yn un o ysbytai'r gogledd.
Mae ap sy'n rhan o gynllun peilot yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn gallu gweld i ba raddau mae claf yn gallu symud, ac os ydyn nhw'n gwneud eu hymarferion ffisiotherapi yn gywir.
Y gobaith yw y gallai darparu dyfais tracio a thabled am lai na £100 y claf a rheoli'r driniaeth o bell arbed arian i'r GIG yn y pen draw a lleihau rhestrau aros.
Mae'r dechnoleg yn fodd i gleifion a meddygon gysylltu â'i gilydd trwy negeseuon uniongyrchol, ac i gleifion nodi mewn lle penodol os ydyn nhw mewn poen neu'n teimlo'n anesmwyth.
Mae'r ap, sydd heb enw eto, yn defnyddio data'r claf i awgrymu ymarferion ffisiotherapi priodol.
Hefyd, mae'n dangos sut i wneud yr ymarferion ac yn galluogi'r claf i ddilyn cwrs ffisiotherapi yn eu cartrefi eu hunain.
Yn ôl llawfeddyg orthopedig ymgynghorol sy'n rhan o'r cynllun peilot, mae'n costio tua £1,700 i glaf aros yn yr ysbyty am nifer o ddiwrnodau a chael cyfres o apwyntiadau ffisiotherapi.
"Fe allai [defnyddio'r ap] fod yn ffordd o dynnu pwysau oddi ar y GIG, ac fe allai hefyd gael effaith anferthol ar y galw sydd am ffisiotherapi," meddai Dr Balasundaram Ramesh.
"Mae gen i, fel llawfeddyg unigol, ddiddordeb yn hwn. Mae angen i mi ysgogi ac annog pobol eraill i wneud hyn ac mae angen i gydweithwyr ymuno â mi o ran cymryd cyfrifoldeb a dysgu'r technegau."
Un o gleifion Dr Ramesh yw'r person cyntaf i dreialu'r ddyfais yng Nghymru. Cafodd Nigel Ede, sy'n 62 oed ac o'r Rhyl, ben-glin newydd bythefnos yn ôl.
Dywedodd: "Mae'n deud wrtha'i os ydw i'n 'neud fy ffisiotherapi yn iawn, mae o'n monitro'r holl symudiada' yn fy nghoes. Ma'r dechnoleg yn wirioneddol ffantastig.
"'Dach chi wastad yn mendio'n well pan 'dach chi adra."
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gallai'r cynllun peilot helpu lleihau rhestrau aros, ond mae'n cydnabod efallai na fyddai'n briodol yn achos pob claf.
Mae dros 13,000 o bobl yn rhanbarth y gogledd angen llawdriniaeth orthopedig. O'r rheini mae dros 3,000 yn aros yn hirach na'r targed, sef 36 wythnos.
Dywedodd y rheolwr gwasanaeth llawfeddygon Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Paul Andrew: "Mae'n bosib mai dyma ddyfodol darparu gwasanaeth cynaliadwy. Rydym yn gwella profiad y claf, lleihau'r posibilrwydd o gael haint yn yr ysbyty, caniatáu iddyn nhw wella gartref - sydd, o ganlyniad, yn rhyddhau gwelyau [ysbyty].
"Bydde hynny'n golygu ein bod yn gallu symud adnoddau i rywle arall er mwyn cyrraedd targedau.
"Os bydd y project yma yn llwyddiannus, fe fydd yn dod yn fwy cyffredin, nid yn unig gyda llawdriniaethau pen-glin ond yn bendant gyda llawdriniaethau clun ac, o bosib, mewn meysydd arbenigol eraill."