Dau newid i dîm rygbi merched Cymru i herio Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Alisha ButchersFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alisha Butchers yn dechrau fel rhif chwech yn erbyn Ffrainc

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Rowland Phillips wedi gwneud dau newid i'w dîm ar gyfer eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc.

Mae Hannah Jones yn dychwelyd fel canolwr, tra bod Alisha Butchers yn ôl yn y tîm yn y rheng-ôl.

Bydd Beth Lewis yn symud i safle'r wythwr i gymryd lle Sioned Harries, sydd wedi'i hanafu, tra bod Manon Johnes yn dechrau fel rhif saith.

Fe fydd tîm merched Ffrainc yn ceisio amddiffyn eu tlws, wedi iddyn nhw gwblhau'r Gamp Lawn yn 2018.

Grey line

Tîm merched Cymru

Lauren Smyth; Jasmine Joyce, Hannah Jones, Alicia McComish, Lisa Neumann; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Caryl Thomas, Carys Phillips (c), Amy Evans, Siwan Lillicrap, Mel Clay, Alisha Butchers, Manon Johnes, Bethan Lewis.

Eilyddion: Kelsey Jones, Cara Hope, Cerys Hale, Natalia John, Alex Callender, Ffion Lewis, Elinor Snowsill, Jess Kavanagh.