Corneli bach Cymreig Rhufain
- Cyhoeddwyd
Rhufain - dinas y Dadeni, La Dolce Vita a'r Pab, a chartref miloedd o Gymry sydd wedi bod ddigon lwcus i ddod i brifddinas yr Eidal ar gyfer gemau rygbi'r Chwe Gwlad, neu gemau pêl-droed hefyd, dros y blynyddoedd.
Wrth gamu allan i brysurdeb y ddinas am ychydig o spaghetti carbonara a gwin coch a rhyfeddu at yr adeiladau hardd, efallai y cewch eich ysbrydoli gan ambell Gymro sydd wedi bod yno o'ch blaen.
Caradog
Mae ein stori ni yn Rhufain yn dechrau gyda'r pennaeth Brythonaidd, Caradog (Caratacus mewn Lladin), a gafodd ei lusgo yma fel carcharor i wynebu dedfryd o farwolaeth o flaen Senedd Rhufain.
Er i hyn ddigwydd bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl, fe allai'r rheiny ohonoch sy'n ymweld â'r Colisëwm, adeilad Rhufeinig mwyaf eiconig y ddinas, fod yn troedio'r un llwybrau â Charadog tua'r flwyddyn 50.
Wrth y Colisëwm mae'r Fforwm, olion hynafol yr hen Rufain sy'n cynnwys y senedd-dŷ o ddyddiau'r Ymerawdr Claudius, y Curia Julia ar Via Sacre
Roedd Caradog wedi arwain y Brythoniaid oedd yn gwrthsefyll ymosodiad Claudius a'r Rhufeiniaid ar y Brydain Geltaidd, i ddechrau gyda'i lwyth yn ne Lloegr, y Catuvellani, ac wedi iddyn nhw gael eu trechu, gyda llwyth y Silures yn ne Cymru.
Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn dweud iddo roi araith ddewr a flaen Claudius yn y senedd gyda'r geiriau:
"Roedd gen i geffylau, dynion, arfau a chyfoeth. Ydych chi'n synnu mod i'n drist i'w colli? Os ydych chi eisiau rheoli'r byd, ydy hynny'n golygu bod yn rhaid i bawb arall groesawu bod yn gaeth?
"Petawn i wedi ildio heb ymladd, cyn cael fy nwyn o'ch blaen chi, fyddai fy ngholled i, na'ch buddugoliaeth chi, ddim wedi dod yn enwog."
Yn ôl Tacitus gwnaeth ei araith gymaint o argraff nes i fywyd Caradog gael ei arbed, ond bu'n rhaid iddo ef a'i deulu fyw yn Rhufain am weddill eu hoes.
Mae cerflun adnabyddus y Galiad Clwyfedig (The Dying Gaul) yn y Musei Capitolini ar Piazza del Campidoglio yn dangos rhyfelwr â thorch Geltaidd nodweddiadol o amgylch ei wddw.
Does neb yn gwybod o ba wlad oedd testun y cerflun mewn gwirionedd ond fe fyddai'r math yma o dorch Geltaidd wedi bod yn gyfarwydd i Caradog, ac o bosib yn rhan o'i wisg.
Morys Clynnog ac Owen Lewis
Draw'r ochr arall i Afon Tiber mae un arall o brif atyniadau Rhufain, y ddinas o fewn dinas, Y Fatican, cartref yr Eglwys Babyddol.
Yng nghrombil llyfrgell y sefydliad pwerus yma, y Biblioteca Apostolica Vaticana ar Cortile del Belvedere, mae llythyrau a llawysgrifau Cymraeg wedi eu hysgrifennu gan Gymry alltud wnaeth geisio gwneud safiad dros iaith a hanes Cymru wrth gyfrannu at ledaenu'r ffydd Gatholig yn y 16eg ganrif.
Roedd Morys Clynnog ac Owen Lewis ymhlith y Cymry Pabyddol wnaeth ffoi o Brydain yn ystod teyrnasiad Brotestannaidd Elisabeth I.
Daeth Morys Clynnog yn rheithor ar Goleg y Saeson yn Rhufain, sydd ar Via di Monserratto heddiw, ac roedd Owen Lewis yn ysgrifennydd uchel ei barch i'r Pab yn y Fatican gyda goruchwyliaeth dros y Coleg. Mae wedi ei gladdu o fewn ei waliau.
Roedd y ddau yma ymysg y gwrthddiwygwyr Cymreig oedd yn cynllwynio o'r Eidal yn erbyn Elisabeth a'r ffydd 'newydd' yng Nghymru a Lloegr.
Yn ei chyfrol Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal, mae Dr Angharad Price yn dweud nad yw eu cyfraniad wedi ei werthfawrogi'n llawn.
"Daethant at galon y Gwrthddiwygiad, ac at gartref y Dadeni dysg yn yr Eidal, ac effeithiodd y cyfuniad hwn ar eu holl weithgarwch," meddai.
"Radicaleiddiwyd eu hagwedd at lenyddiaeth, crefydd a gwleidyddiaeth. Ac yr hyn sydd fwyaf diddorol inni heddiw yw mai eu Cymreictod a ddaeth yn gostrel y radicaleiddio hwnnw. Gwnaeth y Gwrthddiwygwyr Cymreig gyfraniad unigryw ac arwrol at iaith a diwylliant Cymru yn y cyfnod tyngedfennol hwn wedi Deddfau Uno Harri VIII."
Pan sefydlwyd y Coleg yn 1579, gwrthwynebai'r Saeson oedd yn fyfyrwyr yno reolaeth Morys Clynnog drostynt gan ei gyhuddo o ffafrio'r myfyrwyr o Gymru. Fe gafodd y Saeson eu hesgymuno am gyfnod ac fe wnaeth Owen Lewis gais i'r Pab ymyrryd yn y ffrae, gan wneud niwed i'w yrfa yn sgil hynny. Llwyddodd y myfyrwyr o Loegr i ddisodli Clynnog.
Yn yr Eidal, fe ysgrifennodd y Gwrthddiwygwyr rai o'r llyfrau print cynharaf yn y Gymraeg a'u smyglo i Gymru i geisio hybu Catholigiaeth.
Yn yr un cyfnod, meddai Dr Price, darganfuwyd beddrod yn Eglwys San Pedr gyda'r enw Cedewalla arno, sef hen frenin Wessex. Ond roedd y Cymry yn mynnu mai bedd y brenin Brythonaidd Cadwaladr fab Cadwallon oedd hwn, brenin olaf y Cymry a wnaeth farw yn Rhufain yn ôl y llyfrau hanes - creodd hyn ragor o ddadlau rhwng Cymry a Saeson y ddinas.
Thomas Jones
Ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, daeth Cymro ifanc o Sir Faesyfed am dro i'r Eidal, â'i fryd ar wneud bywoliaeth fel artist. Dan ddylanwad ei athro Richard Wilson, Cymro arall oedd wedi ymweld â'r ddinas, roedd Thomas Jones yn gobeithio gallu gwerthu ei waith i Saeson cyfoethog oedd yn y ddinas ar eu Grand Tour o Ewrop.
Ymsefydlodd yn ardal y Piazza di Spagna, lle mae'r Grisiau Sbaenaidd enwog, gan fyw i ddechrau yn Via del Babuleno cyn symud i dŷ yn Via Gregoriana oedd wedi ei godi i'r arlunydd Salvator Rosa. Heddiw, mae Palazzo Stroganoff yn un o adeiladau sefydliad ymchwil Max-Plank.
Roedd y rhan yma o'r ddinas wedi denu pobl greadigol, bohemaidd, ers canrifoedd a nifer fawr o Saeson wedi ymgartrefu yno gan roi'r enw y Ghetto Saesnig i'r lle hyd heddiw.
Roedd Thomas Jones yn treulio ei amser gydag artistiaid eraill yn y tŷ coffi Seisnig, Caffe degli Inglesi, oedd ar gornel Via dua Capelli yn ne'r sgwâr - yn agos iawn i'r bwyty McDonalds heddiw.
Un o'r llefydd y gwnaeth ei baentio oedd y Villa Medici yn y Viale della Trinità dei Monti, sy'n gartref i'r Academi Ffrengig.
Ni lwyddodd Thomas Jones fel artist proffidiol yn yr Eidal ac aeth adre i ofalu am stad y teulu ym Mhencerrig ger Llanfair-ym-Muallt pan fu farw ei dad yn credu ei fod yn fethiant fel arlunydd.
Ond yn nechrau'r 21ain ganrif cafodd Thomas Jones ei ailddarganfod fel arlunydd o flaen ei amser yn yr Eidal oedd yn cynhyrchu gwaith 'cyfoes' yn ystod ei oes, er nad oedd yn sylweddoli hynny ei hun efallai.
Rhai o'i weithiau enwocaf yw Y Bardd a Wal yn Naples.
Bryn Fôn
Fe orffennwn ni efo lle yn Rhufain wnaeth ysbrydoli cân gan un o'n cantorion mwyaf poblogaidd a lle fydd yn gyfarwydd os ydych chi wedi dod yma, neu adael, ar drên - gorsaf drenau Termini.
Dyma destun cân Sobin a'r Smaeliaid, Treni in Partenza (trenau'n gadael):
"Hen gwmni sâl, neb ond y fi, a'r byd a'i frawd yn y Termini,
"Mwstashis o'r Almaen, cameras o Japan,
"Boliau o'r America a phlantos Rhufain yn mynd 'Ciao Mam!'
"Treni in Partenza, Roma, Termini.
"Treni in Partenza, i Baris, i Baris atat ti."
Fe ddaeth y gân ar ôl i Bryn Fôn a John Pierce Jones - Tecs a Mr Picton yn y gyfres gomedi C'mon Midffîld - dreulio noson yn y ddinas.
Roedden nhw wedi bod yn ffilmio pennod arbennig o'r gyfres gomedi adeg Cwpan y Byd yn yr Eidal a'r canwr wedi penderfynu ar y funud olaf i ddal trên o Rufain at ei gymar Anna ym Mharis yn hytrach na hedfan adref efo gweddill y criw.
"Gawson ni noson bach yn Rhufain a phryd o fwyd bach neis mewn tŷ bwyta bach yn waliau'r Fatican, a ffarwelio yn y bore - fo'n mynd i'r maes awyr a fi'n mynd i Roma Termini, sef y stesion fawr ynghanol Rhufain," meddai Bryn Fôn ar raglen Radio Cymru, Geraint Løvgreen ar Enw'r Gân.
"Oherwydd mod i ddim wedi cynllunio'r peth yn dda iawn roedd gynna i ddipyn o waith disgwyl am 'y nhrên.
"Wrth eistedd yno yn y gongl ar y llawr yn gwatsiad pawb yn mynd heibio mi wnaeth y gân mwy neu lai ddigwydd fel dogfen o 'mlaen i.
"Mae 'na gannoedd o filoedd o bobl yn pasio drwadd bob blwyddyn felly mae'n brysur. Roedd eistedd nôl â dy gefn yn erbyn wal yn gwatsiad hyn i gyd yn digwydd, oedd o fel theatr, fel ffilm.
"'Etifedd Mussolini' yn y gân ydy'r system drenau - mae 'na ddywediad yn yr Eidal mai dyna'r unig beth da wnaeth o - gwneud i'r trenau redeg ar amser."
Hefyd o ddiddordeb: