Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wyntoedd cryfion ar hyd y wlad nos Fercher.
Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng 22:00 nos Fercher a 09:00 ddydd Iau.
Mae disgwyl i'r gwynt fod ar ei gryfaf yn y de a'r gorllewin, gyda phosib i'r gwyntoedd gyrraedd 60-70mya mewn ardaloedd arfordirol.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd fod posib i gyflenwadau trydan gael eu heffeithio mewn mannau a bod trafferthion neu oedi wrth deithio yn bosib.