Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Bydd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau gogleddol o'r wlad ddydd Sadwrn.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi gosod y rhybudd rhwng 00:15 a 15:00.
Mae disgwyl i'r gwyntoedd, fydd yn chwythu o gyfeiriad y gorllewin, effeithio ar rannau helaeth o'r gogledd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod oedi a trafferthion wrth deithio yn debygol mewn mannau.
Trafferthion ar y ffyrdd
Mae'r tywydd garw eisoes wedi bod yn cael effaith ar deithiwyr gyda'r gwyntoedd cryfion a llifogydd yn achosi anawsterau i deithwyr.
Cafodd yr M48 i gyfeiriad y dwyrain ei chau fore Gwener oherwydd cryfder y gwynt ar Bont Hafren, tra bod lonydd gorllewinol yr M48 wedi eu cau i gerbydau uchel a beiciau modur.
Bu'r B4275 rhwng Aberdâr ac Aberaman ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd.
Roedd Gerddi Bodnant, Conwy ar gau i'r cyhoedd ddydd Gwener oherwydd pryderon am goed yn disgyn.
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd hefyd gadarnhau fod yr A4086, Nant Peris hefyd ar gau.