Gill i ymuno â phlaid newydd Farage

  • Cyhoeddwyd
Nathan GillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nathan Gill roi'r gorau i'w sedd yn y Cynulliad Cenedlaethol yn Rhagfyr 2017

Dywed y cyn AC Nathan Gill y bydd yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer plaid Brexit newydd Nigel Farage pe bai'r DU yn oedi y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r DU i fod i adael ar 29 Mawrth, ond mae yna alwadau wedi bod am oedi er mwy sicrhau cynllun fyddai'n dderbyniol er mwyn osgoi ffin galed yn Iwerddon.

Ar hyn o bryd mae Mr Gill yn Aelod Seneddol Ewropeaidd annibynnol, ac fe fydd etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop yn cael eu cynnal ar 23 Mai.

Ddydd Gwener fe gafodd Plaid Brexit ei gydnabod fel plaid swyddogol gan y Comisiwn Etholiadol.

Fe gafodd y blaid newydd ei sefydlu er mwyn ymladd yr etholiad pe bai oedi gyda Brexit.

Hyd yn hyn mae'r Tŷ'r Cyffredin wedi gwrthod derbyn cynllun Theresa May i adael yr UE.

Pe na bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo erbyn 29 Mawrth yna bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.

Ond mae rhaid aelodau seneddol wedi galw am oedi'r broses.

'Llwybr anghywir'

Dywedodd Mr Gill y byddai oedi Brexit yn annerbyniol a bod yna 60% o bosibilrwydd y byddai etholiadau Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn y DU.

"Fe fydd Plaid Brexit yn cymryd pleidleisiau gan etholwyr sy'n anfodlon ac mae'n angenrheidiol i Lafur a'r Ceidwadwyr ddeall, pe bai chi yn ein bradychu yna fe fyddwch yn gorfod wynebu'r goblygiadau yn y blychau pleidleisio," meddai wrth raglen Sunday Supplement, BBC Radio Wales.

Fe wnaeth Mr Gill, gafodd ei ethol i'r Senedd Ewropeaidd fel aelod UKIP, adael y blaid honno ym mis Rhagfyr.

Dywedodd fod UKIP "bellach wed mynd lawr y llwybr anghywir."