Cartrefu 100,000 o ieir ger Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
IeirFfynhonnell y llun, PA

Mae cynlluniau ar gyfer codi dwy sied fyddai'n gartref i hyd at 100,000 o ieir yn Sir Wrecsam wedi cael eu cymeradwyo ar apêl.

Fe wnaeth Cyngor Wrecsam wrthod rhoi caniatâd yn ystod haf 2018 i'r cynllun i godi'r ddwy sied ar Fferm Mulsford yn Sarn.

Ond mae archwilydd cynllunio, a gafodd ei benodi ar ran Llywodraeth Cymru, wedi gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw, gan ddweud eu bod nhw wedi ymddwyn yn "annheg".

Daw penderfyniad y swyddog cynllunio ar ôl i berchnogion y fferm, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, wneud apêl yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol gan honni fod cynhyrchu cig o ddodfenod yn "hanfodol" i ddyfodol eu busnes.

Cafodd y penderfyniad gwreiddiol i wrthod y cynllun ei gymryd gan aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Wrecsam ym mis Gorffennaf 2018 oherwydd pryderon am edrychiad y sieciau a'u heffaith ar yr amgylchedd o'u cwmpas.

Roedd yr elusen hawliau anifeiliaid, PETA, hefyd wedi cyflwyno deiseb ag arni dros 9,000 o lofnodion yn gwrthwynebu'r cynllun.

Ond yn dilyn ymweliad diweddar â'r safle, dywedodd yr archwilydd ar ran y Llywodraeth ei fod o'r farn na fydd yr adeiladau yn effeithio ar edrychiad yr ardal, ac y byddai rheoliadau trwyddedau amgylcheddol yn ateb pryderon unigolion am unrhyw lygredd neu sŵn posib o'r safle newydd.

Yn ei adroddiad dywedodd Richard Jenkins nad oedd e wedi gweld unrhyw dystiolaeth chwaith i ddangos y byddai cynnydd mewn traffig yn achosi oedi i deithwyr eraill.

Yn ogystal â chaniatáu i'r siediau gael eu codi mae Mr Jenkins hefyd wedi gorchymyn bod y cyngor yn talu costau i berchnogion y fferm deuluol.