Cwest Carl Sargeant i ailagor ym mis Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae dyddiad tebygol wedi cael ei nodi ar gyfer ailagor y cwest i farwolaeth y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad ailddechrau ddydd Llun 8 Gorffennaf yn Rhuthun o flaen yr Uwch Grwner, John Gittins a phara am bum niwrnod.
Bu'n rhaid gohirio'r cwest fis Tachwedd y llynedd wedi i gyfreithwyr ar ran y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, nodi bwriad i ofyn am adolygiad barnwrol mewn cysylltiad â phenderfyniad i beidio galw dau dyst.
Roedd cyfreithwyr ar ran teulu Mr Sargeant hefyd wedi gwneud cais i gael mynediad i gofnodion ffôn Mr Jones a'i ymgynghorydd arbennig, Matt Greenough.
Dywedodd y cyfreithiwr sy'n cynrychioli teulu Mr Sargeant, Neil Hudgell, ei bod hi'n bwysig i nodi dyddiadau fel bod ei berthnasau'n "cael atebion" ynghylch amgylchiadau'r farwolaeth.
'Pwysig' gosod dyddiad
Roedd Mr Gittins wedi bwriadu dod â'r cwest i ben ar 30 Tachwedd 2018 ac roedd nifer o gyd-aelodau Mr Sargeant yng nghabinet Llywodraeth Cymru wedi rhoi tystiolaeth, gan gynnwys Mr Jones.
Ond dywedodd y crwner na fyddai'n bosib gwneud hynny, gan nodi bwriad i alw Mr Jones yn ôl i roi mwy o dystiolaeth.
Roedd cyfreithwyr Mr Jones yn codi cwestiynau ynghylch penderfyniad i beidio galw Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, a'i ddirprwy, Bernie Attridge, i roi tystiolaeth.
Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd 2017, bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet. Roedd yn 49 oed.
Cafodd ei ddiswyddo wedi cyhuddiad o ymddygiad amhriodol yn erbyn menywod - honiadau yr oedd yn eu gwadu.
Dywedodd Mr Hudgell: "Er bod peth amser cyn y cwest, mae'n bwysig iawn i'r teulu Sargeant bod dyddiad wedi ei bennu.
"Maen nhw'n parhau i obeithio y bydd y cwest yn rhoi atebion sydd mawr eu hangen am amgylchiadau marwolaeth gynamserol a thrasig Carl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017