Cannoedd o alarwyr yn mynychu angladd Carl Sargeant

  • Cyhoeddwyd
arch yn cyrraedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dwsinau o bobl yn sefyll tu allan i Eglwys Sant Marc cyn i'r gwasanaeth ddechrau

Mae angladd Carl Sargeant yn cael ei gynnal yn ei dre enedigol, Cei Connah, ddydd Gwener.

Cafwyd hyd i'r cyn-weinidog Llafur 49 oed yn farw ddyddiau wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru.

Yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, Bernie Attridge, dyma un o'r angladdau mwyaf erioed yn y dref.

Roedd arweinydd Plaid Lafur y DU, Jeremy Corbyn ymysg y rheiny yn y gwasanaeth yn Eglwys Sant Marc, ond fe gadarnhaodd Carwyn Jones na fydd yntau yno er mwyn "parchu dymuniadau'r teulu".

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio osgoi tynnu sylw fel bod y teulu'n gallu "dathlu bywyd Carl mewn heddwch".

Rhubanau gwyn

Ymysg y gwleidyddion eraill oedd yn bresennol roedd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, a'r AS Llafur Owen Smith.

Erbyn i'r gwasanaeth ddechrau roedd torf fawr eisoes wedi ymgasglu y tu allan i'r eglwys, gyda gwleidyddion o bob plaid yn bresennol.

Ar gais y teulu dyw'r rheiny sy'n bresennol ddim yn gwisgo dillad ffurfiol, ond mae pobl wedi cael cais i wisgo rhubanau gwyn sef symbol yr ymgyrch i daclo trais yn erbyn menywod.

Cafodd blodau a chrys pêl-droed Newcastle United eu gosod ar ben arch Mr Sargeant wrth iddo gael ei chario mewn i'r eglwys i gyfeiliant 'Home' gan Michael Buble.

Roedd perthnasau, gan gynnwys ei wraig Bernie a'i blant Lucy a Jack, yn gwisgo lliwiau lliwgar, ac roedd ci Mr Sargeant hefyd yn bresennol.

Ar ddiwedd y gwasanaeth fe wnaeth y gynulleidfa ganu 'Dirty Old Town 'gan Ewan MacColl - hoff gan karaoke Mr Sargeant.

Yn ei araith angladdol fe wnaeth ffrind Carl Sargeant, Daran Hill dalu teyrnged i'w garedigrwydd.

"Petai pawb ond wedi dangos yr un caredigrwydd iddo fe ac y dangosodd e i eraill," meddai.

Fe wnaeth hefyd annog aelodau'r gynulleidfa i gofleidio'r person wrth eu hymyl er mwyn dangos yr un caredigrwydd â Mr Sargeant.

"Dyna'r ffordd y gwnaeth Carl Sargeant gyffwrdd pobl, yn eu bywydau, yn eu meddyliau, yn eu calonnau, yn eu henaid."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn ymysg y gwleidyddion oedd yn bresennol

Cyn yr angladd dywedodd Mr Attridge, cyfaill oes i Mr Sargeant, ei fod yn credu mai dyma fydd y cynhebrwng mwyaf yn yr eglwys "yn sicr ers i minnau fod yn fyw".

Dywedodd: "Rydym yn disgwyl miloedd. Rydw i wedi cael cannoedd o negeseuon gan bobl ar draws Cymru a Lloegr yn holi am drefnu gwestai.

"Mae'r teulu a ffrindiau yn gweld hwn fel dathliad o fywyd Carl yn hytrach nac angladd."

Y gred yw bod AC Alun a Dyfrdwy wedi lladd ei hun bedwar diwrnod ar ôl iddo golli ei swydd fel Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, yn dilyn honiadau o "ddigwyddiadau" yn ymwneud â menywod.

Roedd hefyd wedi cael ei wahardd o'r Blaid Lafur yn dilyn yr honiadau.

Ymchwiliadau

Yn dilyn yr honiadau dywedodd Mr Sargeant y byddai'n brwydro i adfer ei enw da, ond fe gafwyd hyd i'w gorff yn ei gartref ar 7 Tachwedd.

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd ganddo ddewis ond diswyddo Mr Sargeant o'r cabinet.

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r ffordd y deliodd Mr Jones â'r diswyddo, yn ogystal ag ymchwiliad ar wahân yn ystyried beth oedd Carwyn Jones yn ei wybod am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones wedi dweud bod awyrgylch wenwynig o fewn Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, a bod Mr Sargeant yn un o'r rhai gafodd ei fwlio.