Cymeradwyo datblygiad tai dadleuol yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cais am ddatblygiad tai dadleuol yn Nyffryn Clwyd.
Roedd nifer o gynghorwyr lleol wedi codi pryderon am effaith bosib datblygiad tai newydd ar y Gymraeg.
Cafodd y cais i godi 33 o gartrefi ar dir amaethyddol yn Llanrhaeadr, ger Dinbych, ei gymeradwyo o 11 pleidlais i saith mewn cyfarfod o'r pwyllgor fore Mercher.
Yn ôl Elfed Williams o'r Cyngor Cymuned fe allai newid cydbwysedd ieithyddol y pentref, lle mae dros hanner yn siarad Cymraeg.
Ond mae cwmni cynllunio Cadnant yn dweud bod annog twf mewn poblogaeth yn sicrhau "cymunedau Cymreig cynaliadwy".
Llai o siaradwyr Cymraeg
Ar hyn o bryd mae 15 o dai yn cael eu hadeiladu ar safle dros ffordd i'r cae ble allai'r datblygiad newydd gael ei godi.
Mae'r safle ar gyfer y 33 tŷ arall wedi ei glustnodi ar gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych - dogfen sydd hefyd yn ystyried yr effaith ieithyddol bosib.
Fe ddisgynnodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y pentref o dros 60.9% yng nghyfrifiad 2001 i 51.2% yn 2011.
I Mr Williams, sydd hefyd yn llywodraethwyr yn Ysgol Bro Cinmeirch yn y pentref, mae'n debygol bydd effaith andwyol ar yr iaith.
"Mae gennym ni ysgol Gymraeg, a chymuned lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cymysgu'n dda," meddai.
"Ond pan 'da chi'n dechrau mynd â'r balans tuag at y Saesneg yn ormodol, mae hynny'n mynd i effeithio ar yr iaith yn y pentre'.
"Mae capasiti'r ysgol tua 85 o blant, ac mae bron iawn i 80 yno'n barod, felly fydd 'na ddim lle i'r plant o'r datblygiad yma."
Tai fforddiadwy
Ond mae cwmni cynllunio Cadnant, sy'n gweithio ar y cais ar ran tirfeddiannwr lleol, yn dweud y bydd cyfraniad ariannol i ddelio ag unrhyw gynnydd yn nifer y disgyblion yn yr ysgol gynradd.
Maen nhw'n pwysleisio hefyd bydd tri thŷ fforddiadwy yn rhan o'r stad, a bydd cymysgedd o dai yn cael eu cynnig i ateb anghenion y gymuned.
"Mae'n bwysig nodi, rhwng 2001 a 2011 bod poblogaeth Llanrhaeadr wedi lleihau," meddai Sioned Edwards o'r cwmni.
"Mae twf poblogaeth yn rhan o sicrhau ffyniant pentrefi a chreu cymunedau Cymreig cynaliadwy.
"Yn sgil hynny mae'n rhaid derbyn bod angen datblygu tai i'w darparu ar gyfer pobl ifanc."