Cofio trychineb lofaol Lanshipping laddodd 40 yn 1844

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hen, hen, hen dad-cu Mark Cole oedd rheolwr y pwll ar y diwrnod, ond cafodd perthynas arall iddo ei foddi yn y drasiedi

Fe fydd cymunedau o gwmpas pentref bach glanmor Landshipping yn dod ynghyd nos Iau i gofio am y drychineb lofaol waethaf yn hanes Sir Benfro, union 175 mlynedd ar ôl y digwyddiad.

Cafodd 40 o lowyr eu lladd pan lifodd dŵr i mewn i lofa Garden Pit, oedd yn ymestyn allan dan wely afon Cleddau Ddu.

Y gred yw bod yr ifancaf, Joseph Harts, yn 4 oed. Roedd 26 o'r 40 wnaeth foddi o dan 18 oed.

Dywedodd un o ddisgynyddion un o'r meirw bod y drychineb wedi "lladd y gymuned".

'Anodd cymryd y peth i mewn'

Yn ystod y 19eg ganrif, roedd nifer fawr o byllau glo bychain yn ne Sir Benfro. Roedd safonau diogelwch yn ddiffygiol ac anafiadau a marwolaethau yn ddigwyddiadau lled gyffredin.

Y digwyddiad yn Landshipping yw'r drychineb waethaf yn hanes maes glo Sir Benfro.

Fe basiwyd deddfwriaeth yn 1842 i atal plant dan 10 rhag gweithio mewn pyllau glo, ond mae hi'n amlwg fod yna nifer o blant bach yn parhau i weithio ym mhyllau glo Sir Benfro ar ôl hynny.

Roedd 58 yn gweithio ym mhwll Garden Pit ar 14 Chwefror 1844, pan ddigwyddodd y drasiedi.

Roedd rhan o'r pwll yn ymestyn chwarter milltir allan o dan wely'r afon, ac mae'n debyg fod glowyr yn gweithio mor agos at wely'r afon nes eu bod nhw'n medru clywed pobl yn rhwyfo uwchben.

Fe ddaeth yr awgrym cyntaf bod rhywbeth o'i le pan deimlwyd chwythwm o wynt yn codi o'r pwll tua 15:30.

Fe welwyd trobyllau wedyn allan ar y dŵr. Llwyddodd pedwar dyn ac 14 o fechgyn i ddianc wrth gael eu codi o waelodion y pwll mewn bwced.

Fe foddwyd y gweddill wrth i'r dwr godi ar gyfradd o saith gwrhyd (fathom) y funud.

Disgrifiad o’r llun,

Adroddiad o'r Carmarthen Journal adeg y drychineb yn 1844

Roedd hen, hen, hen dad-cu Mark Cole, James Cole, yn reolwr y pwll ar y diwrnod. Cafodd perthynas arall iddo, James Davies, ei foddi yn y drasiedi.

"Ergyd fawr. Cymuned fach yw Landshipping. Fe wnaeth e ladd y gymuned.

"Chi'n gweld y gwahanol ochrau i'r drasiedi. Fe wnaeth James Cole y penderfyniad i anfon y dynion lawr, ond nid fe oedd y perchennog.

"Roedd gymaint o deuluoedd yn gorfod byw heb ddynion, heb fechgyn. Mae'n anodd i gymryd y peth i mewn.

"Fe oedd wedi gorfod anfon y dynion mewn o dan y dŵr. Fe o bosib ddywedodd, ewch lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Parchedig Huw George y bydd "emosiwn ryfedd" yn y gwasanaeth yn Landshipping

Fe fydd gwasanaeth coffa, o dan arweiniad y Parchedig Huw George a'r Dr Rob Davies, yn cael ei gynnal yng nghapel Burnetts Hill yn Martletwy, cyn y bydd pobl leol yn gorymdeithio yng ngolau ffagl i lawr i'r cei yn Landshipping ar gyfer gwasanaeth ger y gofeb i'r rhai gafodd eu lladd.

Cyn y gwasanaeth, dywedodd y Parchedig Huw George: "Dyna beth sy'n hala ofn arna i yw fod plant, wyth, naw, deg mlwydd oed yn gweithio dan ddaear mewn sefyllfa mor anodd.

"Bydde mwyafrif o bobl Sir Benfro heb fod yn Landshipping. Mae'n rhaid ni ynganu geiriau'r plant.

"Roedd y maes glo yn cyflogi nifer fawr o bobl ar un adeg. Mi fyddwn ni yn defnyddio enwau sydd wedi bod yn guddiedig. Mi fydd yna emosiwn ryfedd dwi'n siwr."

Mae ymchwil diweddar wedi golygu y bydd modd ychwanegu enwau newydd at y gofeb. Fe fydd yr enwau yn cael eu datgelu mewn gwasanaeth arbennig am 20:30 ger y gofeb.