Tonypandy a Churchill: Ymateb cymysg i sylw McDonnell

  • Cyhoeddwyd
Tonypandy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o fusnesau eu difrodi yn ystod y terfysgoedd

Mae canghellor yr wrthblaid ac AS Llafur, John McDonnell, wedi ei feirniadu gan nifer o Geidwadwyr blaenllaw am ddweud bod Winston Churchill yn "ddihiryn".

Roedd Mr McDonnell yn cyfeirio at rôl Mr Churchill yn ystod terfysgoedd Tonypandy yn 1910, pan gafodd lluoedd arfog eu hanfon i geisio cadw trefn yno yn ystod streic gan lowyr.

Cafodd un glöwr ei ladd yn ystod y gwrthdaro ffyrnig.

Cafodd y milwyr eu hanfon yno gan Churchill, yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, i geisio rheoli'r sefyllfa ar ôl i'r heddlu golli rheolaeth.

Fe ddechreuodd y terfysgoedd yn dilyn sawl anghydfod rhwng y glowyr a pherchnogion y pyllau glo ynglŷn â chyflogau ac amodau gwaith.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Churchill ymlaen i arwain y DU yn yr Ail Ryfel Byd

Cafodd sylwadau Mr McDonnell gefnogaeth Aelod Seneddol Llafur Rhondda, Chris Bryant: "Y Rhondda oedd yr unig etholaeth lle nad oedd croeso i Churchill."

Yn ôl yr Aelod Cynulliad lleol, a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae'r rhai sy'n dweud fod Churchill yn ddihiryn oherwydd ei weithredoedd yn 1910/11 yn gywir."

'Testun atgasedd'

Mae nifer o Geidwadwyr amlwg wedi beirniadu sylwadau Mr McDonnell - yn eu plith y cyn weinidog tramor, Boris Johnson.

Dywedodd Mr Johnson: "Fe achubwyd y wlad ac Ewrop gyfan rhag ffasgwyr barbaraidd gan Winston Churchill ac mae ein dyled iddo yn anfesuradwy."

Fe ddaeth sylwadau Mr McDonnell wrth iddo ateb cwestiynau amrywiol mewn diwgyddiad a drefnwyd gan y cwmni newyddion Politico.

Yn siarad ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Iau, dywedodd yr hanesydd Hefin Mathias: "Am lawer iawn iawn o flynyddoedd ar ôl 1910 roedd Churchill yn destun atgasedd ymhlith llawer o bobl yng Nghymru ac yn enwedig ymhlith y glowyr.

"Mi wnaeth hynny barhau hyd at ar ôl yr Ail Ryfel Byd."