Rhediad Cwpan FA Lloegr yn hwb ariannol i Gasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Mike Flynn ar ddiwedd gêm nos SadwrnFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Mike Flynn yn cyfarch ei chwaraewyr ar ddiwedd y gêm yn erbyn Manchester City

Mae rheolwr Casnewydd yn gobeithio y bydd yr arian a ddaw yn sgil cyrraedd pumed rownd Cwpan FA Lloegr yn help i gadw chwaraewyr a staff yn y clwb.

Fe lwyddodd yr Alltudion i gadw'r freuddwyd o guro Manchester City tan funudau olaf y gêm nos Sadwrn cyn colli o 1-4.

O gyfuno'r refeniw o ganlyniad ymgyrch eleni a chyrraedd pedwaredd rownd y gystadleuaeth y llynedd, mae Mike Flynn yn credu y gallai'r cyfanswm fod yn £2m.

"Mae ochor ariannol y peth yn anferthol i'r clwb," meddai.

"Mae'n golygu ein bod yn gallu cynllunio yn iawn ac i gael rhywfaint o gytundebau sydd wedi bod yn ein meddyliau.

"Hefyd staff yr ystafell gefn - fe alla'i eu sortio nhw hefyd."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolwyr y ddau dîm wedi canmol yr awyrgylch yn Rodney Parade nos Sadwrn

Mae sefyllfa Casnewydd, sydd ym mherchnogaeth cefnogwyr y clwb, wedi trawsnewid dan reolaeth Flynn.

Pan gafodd ei benodi roedd yr Alltudion 12 o bwyntiau ar waelod Adran 2 gyda 11 gêm yn weddill o dymor 2016-17, ond fe lwyddodd i tîm i osgoi syrthio o'r gynghrair.

'Awyrgylch drydanol'

Yng Nghwpan FA Lloegr y llynedd, fe wnaethon nhw guro Walsall o Adran 1 a Leeds o'r Bencampwriaeth cyn cael gêm gyfartal yn erbyn Tottenham a cholli yn y gêm ail gyfle yn Wembley.

Eleni fe wnaethon nhw drechu tîm arall o Uwch Gynghrair Lloegr, Leicester City, cyn curo Middlesbrough o'r Bencampwriaeth yn Rodney Parade wedi gêm gyfartal oddi cartref.

Mae'r arian yn sgil darlledu'r gemau i'w croesawu, medd Flynn ond mae rhediad llwyddiannus hefyd yn denu cefnogwyr newydd.

"Mae yna gymaint o atgofion da i'r clwb ac i'r cefnogwyr. Rydan ni'n ceisio denu cenhedlaeth o gefnogwyr roedden ni wedi'u colli yn ôl, a rwy'n meddwl ein bod yn llwyddo i wneud hynny, onerwydd roedd yr awyrgylch yn drydanol.

"Roedd yn ardderchog, a rydyn ni eisiau chwarae o flaen y math yna o dorf yn fwy aml."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr Manchester City, Pep Guardiola yn cysuro Padraig Amond yn Rodney Parade

Dywedodd rheolwr Manchester City, Pep Guardiola bod yr awyrgylch yn Rodney Parade a'r gefnogaeth i'r tîm cartref yn "rhyfeddol".

"Rwy'n deall yn iawn pam gafodd Leicester a Middlesbrough gymaint o drafferthion yn y stadiwm yma."

Roedd yn canmol ymdrechion Casnewydd, oedd ond un gôl ar ei hôl hi yn erbyn pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr cyn ildio dwy gôl ym munudau olaf y gêm.

"Roeddan ni'n gwybod y byddai'r gêm yn dynn," meddai. "Roeddan ni'n gwybod roedd rhaid bod yn barod i gystadlu achos mi fyddai'n anodd - ac mi roedd.

"Llongyfarchiadau mawr i Gasnewydd am gyrraedd y rownd yma."