Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 1-4 Manchester City

  • Cyhoeddwyd
Tyreeq Bakinson yn ceisio sgorioFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Tyreeq Bakinson gafodd cyfle gorau'r hanner cyntaf

Ofer, er gwaethaf ymdrech arwrol, oedd ymgais Casnewydd i geisio bod y clwb cyntaf o'r bedwaredd rheng yn Lloegr i gyrraedd rownd chwarteri Cwpan FA Lloegr ers 1990.

Fe lwyddodd yr Alltudion i gadw'u gobeithion yn fyw o aros yn y gystadleuaeth tan yn hwyr yn yr ail hanner yn erbyn pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr, Manchester City.

Ond fe sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl ym munudau olaf yr ornest i wneud hi'n 1-4 yn Rodney Parade.

Yn ôl y disgwyl, Manchester City gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant gydol y gêm, ond yr Alltudion gafodd cyfle gorau'r 45 munud cyntaf.

Roedd hynny wedi i dafliad hir o'r ystlys gan Mickey Demetriou gyrraedd Tyreeq Bakinson wrth y postyn cefn, gyda dim un o chwaraewyr y gwrthwynebwyr ar ei gyfyl.

Fe geisiodd i benio'r bêl i'r rhwyd ond fe gafodd ei atal wedi cryn ymdrech gan y golwr o Frasil, Ederson.

Roedd yna sawl ymgais gan yr ymwelwyr wedi hynny ond roedd cyfuniad o dafliadau hir ac amddiffyn trefnus y tîm cartref - yn ogystal â chyflwr y maes - yn gorfodi chwaraewyr Pep Guardiola i ergydio o bell.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Capten Casnewydd, Regan Poole yn cael y gorau o Leroy Sane a Fernandinho yn gynnar yn yr ail hanner

Llwyddodd Casnewydd i ddal eu tir ac roedd eu cefnogwyr ar eu traed i'w cymeradwyo wrth i'r gêm aros yn ddi-sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ond roedd yna siom pan sgoriodd Leroy Sane yn y chweched munud wedi'r egwyl gydag ergyd nerthol a darodd golwr Casnewydd, Joe Day yn ei wyneb ar ei ffordd i gefn y rhwyd, gan achosi gwaedlif o'r trwyn.

Er gwaethaf ymdrechion yn y ddau gwrt cosbi, roedd yn dechrau edrych fel bod antur yr Alltudion ar fin dod i ben wrth i'r ymwelwyr ymestyn y fantais gyda gôl Phil Foden, oedd wedi dechrau'r ymosodiad yn ei hanner ei hun.

Roedd hi'n 0-2 felly wedi 74 o funudau a'r ystadegau bryd hynny yn dangos fod Manchester City wedi cael 89.9% o'r meddiant ers dechrau'r ail hanner.

Daeth lygedyn o obaith pan sgoriodd Padraig Amond gydag ergyd o bell gyda thair munud yn unig yn weddill o'r 90 munud.

Roedd y sgôr yn 1-2 ac Amond wedi cynnal ei record o sgorio ym mhob rownd o'r gystadleuaeth.

Ond funud yn unig wedi hynny, fe sgoriodd Foden drydedd gôl Manchester City, ac roedd yna bedwaredd - gan Riyad Mahrez - yn ystod amser ychwanegol.

1-4 felly oedd y sgôr terfynol - canlyniad nad oedd, efallai, yn adlewyrchiad teg o ymdrechion anrhydeddus tîm Michael Flynn.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr hapus Casnewydd cyn y gic gyntaf yn Rodney Parade

Tîm cychwynnol Casnewydd: Day, Butler, Demetriou, O'Brien, Bennett, Poole (c), Bakinson, Labadie, Willmott, Matt, Amond

11 cyntaf Manchester City: Ederson, Zinchenko, Stones, Otamendi, Danilo, Fernandinho, Sane, Silva (c), Foden, Mahrez, Gabriel Jesus.