Anaf difrifol i blentyn wedi gwrthdrawiad yn y Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Blaenau'r CymoeddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd Blaenau'r Cymoedd fore Sul

Mae plentyn ifanc wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Roedd yna ddau gerbyd yn y gwrthdrawiad fore Sul ar yr A465 rhwng Dowlais Top a chyffordd Galon Uchaf.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am gyfnod i'r ddau gyfeiriad ac roedd yna rybudd gan Heddlu De Cymru i yrwyr gadw draw o'r ardal.

Cafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.