'Dim bwriad i estyn llain lanio Maes Awyr Caerdydd'

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Ma
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r maes awyr yn gobeithio denu cwmnïau newydd a chynnig teithiau i rannau newydd o'r byd yn yr 20 mlynedd nesaf

Does dim bwriad i ymestyn llain lanio Maes Awyr Caerdydd er bod y posibilrwydd yn cael ei grybwyll mewn cynlluniau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, yn ôl prif weithredwr y safle.

Mae Uwchgynllun y maes awyr yn Y Rhws ym Mro Morgannwg - sy'n amlinellu "cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf" dros yr 20 mlynedd hyd at 2040 - yn cynnwys terfynfa newydd a gwesty.

Eisoes mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder y byddai datblygu'r llain lanio yn arwain at fwy o sŵn a llygredd, ac awyrennau'n hedfan yn is yn ardaloedd Pen-y-bont, Llanfleiddan a'r Bont-faen.

Ond mae prif weithredwr y maes awyr, Deb Barber yn dweud ei bod eisiau "rhoi diwedd ar ofnau" ynghylch y posibilrwydd.

'Opsiwn' rhag ofn

Dywedodd wrth Bwyllgor Ymgynghorol Maes Awyr Caerdydd: "Does dim cynlluniau yn fuan i estyn y llain lanio. Dydyn ni ddim yn rhagweld hynny'n digwydd oni bai bod yna newid sylweddol yn y ffordd y mae cwmnïau hedfan yn gweithredu.

"Gan fod y cynllun hwn yn berthnasol i gyfnod maith, os fydd yna farn y gallen ni fod angen ymestyn y llain lanio ar unrhyw bryd yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni ei gynnwys yn yr Uwchgynllun fel opsiwn posib

"Ffordd o ddiogelu'r opsiwn hwnnw, petae ei angen, yw hyn yn syml. Nid dyna ein bwriad o gwbwl ar hyn o bryd."

Ychwanegodd y byddai angen caniatâd cynlluno llawn a chytundeb rheoleiddiwr y sector i estyn y llain lanio.

Ffynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Pryder amgylcheddwyr

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp amgylcheddod, Vale Communities For Future Generations: "Fe fyddai estyn y llain lanio yn newid yr holl ffordd o redeg y maes awyr.

"Fe fyddai'n dod â gwahanol fathau o awyrennau yma ac ar wahanol uchder nag ar hyn o bryd.

"Fydden ni o bosib yn gweld mwy o sŵn, mwy o amharu ar yr ardal yn weledol a llawer iawn yn fwy o lygredd awyr."

Mae'r grŵp hefyd yn ofni y byddai mwy o hediadau cludo nwyddau yn cael eu trefnu a hynny mewn awyrennau "mwy hen, mwy swnllyd a llai effeithiol o ran defnyddio tanwydd".

Dywed y maes awyr bod nwyddau'n cael eu cludo gan amlaf yng nghorff awyrennau masnachol sydd hefyd yn cludo teithwyr.