Gwendidau strategol wrth geisio gwerthu Cymru

  • Cyhoeddwyd
banerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod fod yna wendidau wedi bod yn y modd maen nhw wedi bod yn ceisio gwerthu Cymru i'r byd yn y gorffennol.

Dywedodd Eluned Morgan fod ei rôl newydd fel gweinidog â chyfrifoldeb am gysylltiadau rhyngwladol yn ymgais i fynd i'r afael â methiannau'r gorffennol.

Fe fydd hi'n gweithio gyda grŵp o arbenigwyr dros y misoedd nesaf i ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd y Llywodraeth.

Mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau, dywed aelodau'r cynulliad fod Cymru wedi bod "yn llawer llai llwyddiannus" na gwledydd o'r un maint wrth gydweithio gyda Chymry dramor er mwyn hybu'r wlad.

Mae adroddiad gan Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad ar ddyfodol perthynas Cymru gydag Ewrop a'r byd yn galw am well cysylltiad gyda Chymry sy'n byw dramor neu bobl sydd o dras Gymreig.

Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan: 'Cymru ar agor ar gyfer busnes'

Yn ôl y pwyllgor mae'r record yn y gorffennol wedi bod yn fratiog ac mae ymadawiad y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn galw am strategaeth newydd.

Cafodd strategaeth bresennol llywodraeth Cymru - 'Cymru a'r Byd' - ei chyhoeddi yn 2015.

Fe fydd grŵp o arbenigwyr yn cwrdd â Ms Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru, am y tro cyntaf ddydd Gwener.

Dywedodd Ms Morgan: "Rydym am roi neges glir: nid ydym yn troi cefn ar weddill y byd, rydym yn agored i fusnes ac rydym yn agored i gyfnewid diwylliannol.

Swyddfeydd Tramor

"Mae'r rhain yn negeseuon rwy'n awyddus i'w datgan i'r byd," meddai.

Mae gan Lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd rhyngwladol mewn 12 gwlad wahanol gan gynnwys yr Unol Daleithiau, China, India a'r Almaen, gyda'r nod o helpu allforwyr o Gymru ac i ddenu buddsoddiad mewnol.

Yn y gorffennol, mae Ffederasiwn Busnesau Bychain wedi bod yn feirniadol o lwyddiant swyddfeydd rhyngwladol, gan ddweud fod ffigyrau yn awgrymu fod allforion wedi gostwng i'r gwledydd hynny rhwng 2013 a 2016.

Dywed Llywodraeth Cymru nad oedd yr ystadegau oedd ar gael yn adlewyrchu'r sefyllfa yn gywir.