Cyngor yn gwadu cyhuddiad o 'lanhau cymdeithasol' Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor sir yn dweud mai dod o hyd i'r llety "mwyaf addas yn y tymor hir" ar gyfer teuluoedd bregus yw nod penderfyniad dadleuol i symud teuluoedd digartref o'u llety dros dro mewn gwestai glan y môr yn Y Rhyl.
Yn ôl yr AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, mae'r aelod o'r cabinet sydd â chyfrifoldeb am faterion digartrefedd wedi dweud mai'r rheswm yw diogelu buddsoddiad y cyngor yn nhwristiaeth ac adfywiad economaidd yr ardal rhag "effaith negyddol bosib" digartrefedd.
Ond mae'r cam, medd Mr Gruffydd, â "blas o lanhau cymdeithasol", ac mae perchennog un o'r gwestai yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw aros ar gau dros fisoedd y gaeaf a diswyddo staff.
Dywed un fam, sydd wedi cael gwybod bod hi a'i phlant yn gorfod symud o'r gwesty, bod sylwadau'r Cynghorydd Bobby Feeley yn "ddideimlad".
'Dim trugaredd'
"Dwi'n flin ofnadwy sut galla hi fod mor negyddol at bobol ddigartre'," meddai Zoe Stuart.
"Dydy hi 'rioed 'di bod i'n gweld hi, dydy hi 'rioed wedi'n cyfarfod.
"Person ydw i, a'm mhlant, nid rhifa' ar ddarn o bapur. Doedd 'na ddim trugaredd, roeddan ni'n ca'l ein sgubo dan garped."
Mae Ms Stuart, sy'n 37 oed ac â thri o blant, yn aros yng Ngwesty Westminster ers cael ei throi o'i chartref blaenorol gan landlord preifat.
Dywedodd bod y gwesty yn "wych" a'r staff "hynod gefnogol" wedi gwneud iddi deimlo'n gartrefol yno.
"Ro'n i yma haf dwytha ac roedd yna dwristiaid yma a doedd ganddyn nhw ddim problem efo'r peth," meddai.
"Does neb yn gwybod pam bod ni yma - cyn belled ag y maen nhw yn y cwestiwn rydan inna yma ar wylia' hefyd."
Ychwanegodd "bod neb ag unrhyw atebion" eto i le fydd hi a'i phlant yn mynd nesaf.
Un arall sy'n gorfod symud ymlaen yw Cherry Butler, sy'n 71 oed ac o Fodelwyddan.
"Dwi'n hapus ac wedi setlo yma ac mae'n boeni arna'i meddwl am orfod symud o 'ma," meddai.
'Gwella delwedd y dref'
Dywed Mr Gruffydd, un o ACau rhanbarthol gogledd Cymru, bod y penderfyniad yn effeithio ar deuluoedd "sydd eisoes wedi anobeithio'n llwyr am wahanol resymau", a'u bod yn cael eu symud "ddim ond er mwy gwella delwedd Y Rhyl".
"I mi mae yna flas o lanhau cymdeithasol yn hynny, o geisio sgubo problem ddifrifol iawn dan garped rhywun arall. Sut fydde Sir Ddinbych yn teimlo pe tasae siroedd eraill yn gwneud hyn iddyn nhw?"
Mae Gwesty Westminster yn derbyn teuluoedd ar gais gwasanaeth digartrefedd y cyngor ers y llynedd.
Yn ôl un o'r perchnogion, Carol Arnett, fe ddywedodd y cyngor wrthyn nhw ym mis Ionawr bod y gwestai digartref yn gorfod gadael, gan grybwyll lleoliad y gwesty ger lan y môr ac adfywiad y dref fel y rhesymau dros hynny.
"Mae yna gred bod y bobl yma wedi dod oddi ar y strydoedd ond nid dyna'r achos, maen nhw'n bobl gweddus ac mae rhai mewn gwaith," meddai Ms Arnett.
"Gofynnon ni allen nhw ein defnyddio gaeaf nesa' ond maen nhw wedi dweud: byth eto. Felly fyddan ni ar gau am bum mis dros y gaeaf a bydd 15 o staff parhaol yn ddiwaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych mewn ymateb i'r feirniadaeth mai nod y penderfyniad yw "dod o hyd i'r llety mwyaf addas yn y tymor hir i deuluoedd ac unigolion sydd yn anffodus yn ddigartref".
Bydd neb, meddai, "yn cael eu symud nes y bydd llety addas wedi ei sicrhau, yn ddelfryfol yn eu cymunedau eu hunain".
Ychwanegodd: "Mae gwestai yn cael eu defnyddio weithiau i ddarparu llety tymor byr i'r rhai mewn angen... ein nod yw ailgartrefu teuluoedd ac unigolion mewn llety sy'n ateb eu gofynion yn y tymor hir, mor fuan ac effeithiol â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2018