Cyn-Brif Weinidog yn galw am refferendwm arall ar Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi datgan ei fod o blaid cynnal refferendwm arall o aelodaeth y DU yn Ewrop.
Cyn sefyll lawr ym mis Rhagfyr, dywedodd Mr Jones y dylai'r Blaid Lafur geisio sicrhau Etholiad Cyffredinol yn gyntaf.
Wrth siarad fel aelod o banel rhaglen Pawb a'i Farn ar S4C nos Iau, dywedodd ei bod hi'n "gwneud synnwyr i setlo'r cwestiynau nawr".
Mae'r DU i fod i adael yr UE ar 29 Mawrth eleni.
'Dau gwestiwn'
Mae'r Prif Weinidog Theresa May yn ceisio newid y cytundeb a drafodwyd gyda'r UE, yn dilyn gwrthwynebiad gan ASau Ceidwadol ar y 'backstop' yn Iwerddon.
Ychwanegodd Mr Jones: "I ddechrau dywedais fod rhaid parchu'r canlyniad, ond ar hyn o bryd rydym yn edrych ar Brexit digytundeb, a doedd neb yn dadlau am hynny ddwy flynedd yn ôl."
Dywedodd wrth y gynulleidfa ym mhorthladd Caergybi ei fod yn ffafrio refferendwm gyda dau gwestiwn, un yn gofyn i bleidleiswyr i aros neu adael yr UE ac un yn rhoi'r dewis rhwng cytundeb Theresa May neu adael heb gytundeb.
Wrth ymateb i sylwadau Mr Jones, dywedodd y Ceidwadwr Mostyn Jones, oedd hefyd yn aelod o'r panel: "Roedd yr ateb yn glir i adael yr UE, a dyna beth mae'r Ceidwadwyr yn gweithio i wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019