Gwaith ffordd ar bont Tal-y-cafn yn effeithio ar yrwyr
- Cyhoeddwyd
Gall gyrwyr wynebu dargyfeiriadau o thua 12 milltir am gyfnod o bump i chwe wythnos oherwydd gwaith atgyweirio ar bont yn Sir Conwy.
Mae'r awdurdod lleol yn cynnal gwaith atgyweirio ar y bont ger Tal-y-cafn - sy'n cysylltu'r A470 i ochr gorllewinol Afon Conwy.
Bydd rhaid i yrwyr deithio cyn belled â chastell Conwy neu Llanrwst er mwyn croesi'r afon tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Mae'r gwaith yn cynnwys ail-osod wyneb y ffordd, gosod concrid newydd ac uwchraddio'r dreiniau.
Dywedodd Cyngor Sir Conwy fod y gwaith yn "hanfodol".