'Cildwrn' Brexit i Loegr ond 'dim ceiniog' i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o aelodau blaenllaw Llafur Cymru yn rhagweld na fydd addewid o arian ychwanegol er mwyn rhoi hwb i drefi llai llewyrchus yn dilyn Brexit yn perswadio ASau Llafur i gefnogi cytundeb Theresa May.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi manylion cronfa gwerth £1.6bn dros saith mlynedd i hybu trefi yn Lloegr, gyda hanner yr arian yn mynd i drefi yng ngogledd a chanolbarth Lloegr.
Dywedodd y byddai'n "ymdrechu i sicrhau bod trefi yng Nghymru'n gallu cael budd" o'r cynllun.
"Cildwrn" i geisio sicrhau cefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin i gytundeb y Prif Weinidog yw'r arian, medd y Blaid Lafur, ac mae Plaid Cymru yn galw am "gyfran deg" o'r arian.
Ond mae'r Gweinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, James Brokenshire yn mynnu y bydd yr arian ar gael "beth bynnag y canlyniad, ond yn amlwg rydyn ni eisiau gweld cytundeb".
Cymru'n 'cael dim'
Nod y Gronfa Trefi Cryfach yw sbarduno twf a chyfleoedd gwaith mewn ardaloedd yn cynnwys cymunedau arfordirol, trefi marchnad a hen drefi diwydiannol - ardaloedd sydd, ym marn rhai, wedi eu hamddifadu dros y blynyddoedd yn sgil pwyslais ar adfywio dinasoedd.
Ond mae'r gwrthbleidiau'n beirniadu'r cynllun fel ymgais i sicrhau bod ASau etholaethau a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cefnogi cytundeb Mrs May.
Ysgrifennodd AS Llafur Pontypridd, Owen Smith ar Twitter: "Mae James Brokenshire yn dweud bod y gronfa £1.6bn yn sicrhau 'nad oes yr un rhan o'r DU yn cael ei adael ar ôl'... heblaw am Gymru a'r Alban, wrth gwrs, sy'n cael dim."
Mae AS Rhondda, Chris Bryant wedi dweud ei fod yn "gandryll", gan ychwanegu: "Rwy'n amau y bydd llai yn hytrach na mwy o ASau Llafur y DU yn cefnogi cytundeb honedig May oherwydd ymgais trwsgl, lletchwith a phwdr heddiw i lwgrwobrwyo... Y cyfan i fodloni'r bwystfil Brexit."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod swyddogion yn gofyn am "fwy o eglurder" ynghylch y cyhoeddiad.
"Dyw hi ddim yn glir faint o'r £1.6bn sydd ar ei ffordd i'r gyllideb Gymreig," meddai.
Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn cael ei "ddatgelu fel un ffug" petai'n dod i'r amlwg nad arian newydd mo'r cyllid ar ei gyfer, ac os yw'n arian newydd, fe ddylai Cymru hefyd elwa, dan fformiwla Barnett.
Yn unol â fformiwla Barnett, mae mwy o arian i wasanaethau yn Lloegr fel arfer yn arwain at fwy o arian i Gymru.
Galw am 'gyfran deg'
Dywedodd AS Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards: "Mae yna lawer o lefydd i'r dwyrain o Glawdd Offa sydd, wrth gwrs, wedi dioddef oherwydd obsesiwn San Steffan gyda de-ddwyrain Lloegr, ond mae'n rhaid i Gymru hefyd gael cyfran deg o'r cyllid.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Prydain ddweud yn iawn a fydd y goblygiadau Barnett arferol yn berthnasol i'r gronfa yma. Ni all San Steffan barhau i wneud cytundebau amheus sy'n gweld hwb ariannol i rai rhannau o'r DU tra bod Cymru'n cael dim."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Bydd y llywodraeth yn ymdrechu i sicrhau bod trefi yng Nghymru'n gallu cael budd o Gronfa Trefi Cryfach, gan adeiladu ar lwyddiant ein Cytundebau Twf a Chytundebau Dinesig.
"Bydd y trefniadau ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael ei amlinellu yn yr arolwg gwariant maes o law."