RT Davies: 'Gohirio Brexit yn bradychu pleidleiswyr'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Mae nifer o ASau yn mynd yn ôl ar yr addewidion a wnaed yn ystod etholiad cyffredinol 2017," yn ôl Mr Davies

Mae Aelodau Seneddol sy'n ceisio gohirio Brexit neu'n galw am refferendwm arall yn bradychu pleidleiswyr, yn ôl cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd Andrew RT Davies fod rhai aelodau o'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol "yn rhoi uchelgais bersonol o flaen eu dyletswydd i bleidleiswyr".

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi rhoi'r cynnig i ASau ohirio Brexit am gyfnod os na chaiff ei chytundeb hi ei dderbyn yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ychwanegodd Mr Davies ei bod yn "siomedig gweld cymaint o ASau yn mynd yn ôl ar yr addewidion a wnaed yn ystod etholiad cyffredinol 2017".

Mae rhai ASau, gan gynnwys aelodau o gabinet Mrs May, wedi galw am ohirio Brexit er mwyn cael mwy o amser i sicrhau cytundeb.

Ar hyn o bryd y disgwyl yw y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth.

Bydd trafodaethau Brexit yn cael eu cynnal yn San Steffan nos Fercher, gan roi'r cyfle i ASau bleidleisio ar welliannau posib i strategaeth Brexit y llywodraeth.

Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys cynnig gan y Blaid Lafur i gyflwyno cynllun Brexit newydd.

'Arafu'r broses'

Mae Mr Davies, AC Bro Morgannwg, o blaid gadael yr UE gyda chytundeb ar 29 Mawrth.

"Mae pob AS wedi derbyn eu cyfarwyddiadau, ond nawr mae pobl yn rhoi uchelgais bersonol o flaen eu dyletswydd i wasanaethu pleidleiswyr," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n "deg i feirniadu Llywodraeth y DU am rai o'r penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ynghylch Brexit", ond bod "y Senedd wedi arafu'r broses a gallai hynny ein gwthio heibio 29 Mawrth".

Ymysg y gwelliannau gafodd eu cyflwyno ond ddim yn cael eu trafod nos Fercher oedd cynnig Plaid Cymru i ohirio dyddiad gadael yr UE tan 2021.