Galw am ddarpariaeth figan mewn sefydliadau cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Bwyd figanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o figaniaid nag erioed yng Nghymru, yn ôl y Gymdeithas Figan

Dylai bod opsiynau figan ar gyfer pob pryd mewn ysgolion ac ysbytai, yn ôl grŵp o ymgyrchwyr.

Mae'r Gymdeithas Figan yn galw am gyfraith newydd fyddai'n sicrhau bod prydau figan ar gael ym mhob sefydliad cyhoeddus.

Dywedodd y gymdeithas nad yw'r ddarpariaeth o fewn y sector cyhoeddus yn ddigonol, gan ychwanegu bod cleifion ysbyty a phlant figan yn aml yn gorfod gwneud heb.

Yn ôl y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths mae angen i sefydliadau "ofalu am anghenion eu cwsmeriaid".

Ond fe wnaeth Ms Griffiths annog pobl i fynd ati i lunio deisebau er mwyn delio â'r mater yn uniongyrchol.

Mae deiseb wedi ei arwyddo gan 1,109 o bobl wedi ei gyflwyno i'r Cynulliad yn galw am sicrwydd y byddai opsiynau addas ar gyfer figaniaid yn cael eu cynnwys ar bob bwydlen.

Mae mwy o figaniaid nag erioed yng Nghymru, gyda 30,000 yn ymatal rhag bwyta cig, pysgod nac unrhyw gynnyrch anifeiliaid, yn ôl y Gymdeithas Figan.

'Dim rheidrwydd cyfreithiol'

Dywedodd Ms Griffiths: "Dylai sefydliadau sy'n darparu bwyd o fewn y sector gyhoeddus ofalu am anghenion eu cwsmeriaid, ond does dim rheidrwydd cyfreithiol arnyn nhw i wneud mwy.

"Yn achos y ddeiseb, byddai hi'n gam mawr ymlaen pe bai'r ymgyrchwyr yn cyflwyno eu hachos i'r sefydliadau hyn sy'n darparu gwasanaethau arlwyo.

"Os ydyn nhw'n teimlo bod angen gwneud mwy yna byddai cyfathrebu uniongyrchol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn fwy buddiol yn y tymor hir na fyddai mandadau pellach."

Bydd y mater yn cael ei drafod gan Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad ddydd Mawrth.