Rhybudd melyn am law trwm yn rhan helaeth o dde Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm sydd â'r potensial i achosi trafferthion i deithwyr yn rhannau helaeth o dde Cymru.
Daw'r rhybudd i rym am 18:00 ddydd Mawrth gan bara tan 09:00 fore Mercher.
Mae disgwyl rhwng 20 a 30mm o law, rhwng 40 a 50mm ar dir uchel fel Bannau Brycheiniog a hyd at 60mm yn y mannau mwyaf agored.
Hefyd mae disgwyl gwyntoedd cryf mewn mannau, gan gynyddu effaith bosib y glaw.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod llifogydd yn debygol o effeithio ar dai a busnesau, a bod toriadau i gyflenwadau trydan yn bosib.
Mae disgwyl dŵr ar y ffyrdd ac maen nhw'n annog teithwyr i ganiatáu mwy o amser nag arfer ar gyfer pob siwrne.