Pladur pwerus i drin tir mawn yn cyrraedd Ceredigion
- Cyhoeddwyd
![Pladur Pwerus](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A6D6/production/_105901724_pladurpwerus2.jpg)
Bydd y pladur gwerth £300,000 yn cael ei ddefnyddio i adfer tir mawn
Mae'r peiriant cyntaf o'i fath, sydd wedi ei ddylunio i gynaeafu corsydd gwlypaf Cymru, wedi cyrraedd Ceredigion.
Daw'r peiriant i Gors Caron, ger Tregaron, fel rhan o brosiect i adfer rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf pwysig Cymru.
Mae'r pladur yn pwyso 4.5 tunnell ac wedi costio hyd at £300,000.
Mae'n rhan o fuddsoddiad gan brosiect LIFE, gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sydd wedi derbyn arian Ewropeaidd i gynnal y gwaith.
'Brwydro yn erbyn newid hinsawdd'
Fe fydd y peiriant yn cael ei ddefnyddio ar dir mawn sydd wedi tyfu ers dros 12,000 o flynyddoedd.
Yn ôl CNC, bydd eu hadfer yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd drwy greu mawn newydd.
Bydd y mawn yn dal rhagor o garbon, a gwella ansawdd y dŵr mewn afonydd lleol.
Mae cyforgorsydd (raised bogs) yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin, gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun a'r planhigyn eiconig, andromeda'r gors.
![Pladur pwerus](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/18394/production/_105902299_creditfarmingphotographyltddji_0713sml.jpg)
Gall traciau llydan y pladur weithredu ar amodau sy'n amgylcheddol sensitif a gwlypdir
Dros gyfnod y prosiect, y bwriad yw i'r peiriant dorri o leiaf 75 hectar o laswellt y bwla, sy'n cyfateb i 75 cae rygbi.
Bydd y peiriant, sy'n pwyso 4.5 tunnell ac sydd dros 3m o uchder, yng Nghors Caron a Chors Fochno am y pedair blynedd nesaf.
'Adfer safleoedd tebyg'
Dywedodd Rhoswen Leonard, Swyddog Prosiect Cyforgorsydd Cymru, LIFE, bod y peiriant ei hun "yn anhygoel".
"Mae'r traciau llydan yn golygu y gall arnofio ar y fawnog a chyrraedd ardaloedd sydd wedi bod yn amhosibl eu cyrraedd yn y gorffennol heb niweidio'r mwsoglau sbyngaidd sy'n gwneud y safle mor bwysig. Rydym yn ysu i gael dechrau," meddai.
"Pan fydd y prosiect wedi ei gwblhau yng Ngheredigion, fe fydd y peiriant yn cael ei ddefnyddio i adfer safleoedd tebyg ledled Cymru."
![Pladur Pwerus](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1376/cpsprodpb/10E64/production/_105902296_pladurpwerus3.png)
Bydd y pladur yn cael ei ddefnyddio yng Nghors Caron a Chors Fochno dros y pedair blynedd nesaf
Mae'r safleoedd hyn yn rhai amgylcheddol sensitif, sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol ar gyfer eu budd amgylcheddol.
Yn ôl Harry Kester o Off-Piste Agri Ltd, gwerthwr y peiriant yn y DU, gall y peiriant "weithio ar sawl math o dir".
"Mae ei draciau llydan yn sicrhau y gall weithredu ar amodau sy'n amgylcheddol sensitif a gwlypdir, sy'n golygu mai hwn yw'r dewis perffaith ar gyfer prosiectau adfer cadwraeth fel hyn.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda CNC i arddangos llwyddiannau'r peiriant hwn dros y blynyddoedd nesaf. Bydd wir yn gwella'r gwaith adfer ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r prosiect".