Dafad yn rhoi genedigaeth i bump oen yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
dafaid ac wyn

Mae ffermwr wedi son am ei sioc ar ôl i ddafad ar fferm yng Ngheredigion roi genedigaeth i bump oen - a rheiny i gyd yn fyw.

Cafodd yr ŵyn eu geni ar fferm Coedmore Hall yng Nghellan, ger Llanbedr Pont Steffan yn gynnar ddydd Mawrth.

Er mor anghyffredin ydy hi i gymaint o ŵyn oroesi'r un enedigaeth dywed y perchennog, Emily Jones taw dyma'r eildro i hyn ddigwydd ar y fferm.

Ond dywedodd wrth BBC Cymru na allai gynnig unrhyw esboniad ynghylch y peth: "Alla'i byth â ateb chi biti 'ny."

Unwaith mewn oes

Dafad Texel wedi ei chroesi yw'r fam. Dyma'r trydydd tro iddi wyna, ond roedd eisoes wedi rhoi genedigaeth i bedwar oen ddwy flynedd yn ôl.

Dywedodd Ms Jones bod y sgan arferol wedi amlygu pump oen y tro hwn "ond o'n ni'm yn gw'bod a fydden nhw'n byw i gyd".

Disgrifiad,

Emily Jones: "Maen nhw'n seis teidi!"

"O'dd tri wedi dod [yn naturiol] a tynnon ni'r ddou dwytha."

Ar ôl cael colostrum yn y lle cyntaf i roi'r cychwyn gorau posib i'r ŵyn, mae'r fam bellach wedi gallu bwydo'r tri gwryw a dwy fenyw ei hun.

"Maen nhw'n sugno am yn ail," meddai Ms Jones. "Maen nhw yn llond eu boliau a ma' nhw'n dilyn y ddafad rownd y lloc."

Dywedodd mai chwe blynedd yn ôl oedd achos cyntaf y fferm o ddafad yn esgor o bump oen byw.

Ffynhonnell y llun, Emily Jones

'Anghyffredin iawn'

Eglurodd y milfeddyg o Bwllheli, Malan Hughes, nad oedd hi wedi gweld digwyddiad o'r fath yn ei hardal hi.

Dywedodd ei fod yn ddigwyddiad "anghyffredin iawn".

"Ond maent yn fach felly mae'n siŵr bod y ddafad yn eu geni yn hawdd," meddai.

"Mi fyswn yn meddwl bod y survival rates yn fach iawn iawn!"