Cyngor Gwynedd yn trafod toriadau i ganolfannau iaith

  • Cyhoeddwyd
Cymraeg

Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod cynlluniau ddydd Iau i dynnu bron i £100,000 oddi ar ganolfannau sy'n trwytho plant yn y Gymraeg.

Mae'r canolfannau yn trochi plant sy'n dod o du allan i'r sir yn y Gymraeg i'w helpu astudio drwy'r Gymraeg yn yr ysgol.

Ond oherwydd toriadau mae'r cyngor, sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru, yn bwriadu torri £96,000 oddi ar y nawdd sydd ar gael i'r canolfannau o fis Medi ymlaen.

Pe bai'r newidiadau'n cael eu cymeradwyo mae'n debyg o arwain at golli swyddi neu gau un o'r canolfannau.

7,000 o blant

Pum canolfan sydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd - yn Nolgellau, Llangybi, Caernarfon, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Mae dros 7,000 o blant wedi mynychu'r canolfannau iaith hyn ers iddyn nhw agor 35 mlynedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd yn trafod y cynlluniau ddydd Iau

Ond yn ystod cyfarfod llawn y cyngor ddydd Iau mae un o gynghorwyr Llais Gwynedd wedi dweud y bydd yn ceisio sicrhau cefnogaeth aelodau o bob plaid mewn ymdrech i newid meddyliau'r cabinet.

Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd y bydd yn cyflwyno cynnig fyddai'n golygu bod angen i'r mwyafrif o gynghorwyr bleidleisio o blaid y newid cyn y byddai modd ei gyflawni, yn hytrach na'r cabinet yn unig.

Dyw'r cabinet ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol eto, ond maen nhw wedi dweud eu bod yn rhagweld cynnydd o £35,000 mewn costau, ac yn wynebu toriad o £61,000 yn y Grant Gwella Addysg y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

'Tanseilio'r polisi iaith'

Dywedodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith eu bod yn "erfyn ar y cyngor i ail-ystyried eu cynlluniau".

"Maen nhw'n gwneud cyfraniad hollbwysig o ran creu siaradwyr Cymraeg hyderus tuag at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr," meddai.

"Yn ymarferol, byddai lleihau darpariaeth yn y canolfannau yma yn tanseilio polisi iaith ysgolion Gwynedd a'r Siarter Ysgolion."

Ychwanegodd grwpiau Dyfodol i'r Iaith a Rhieni dros Addysg Gymraeg eu bod wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn gwrthwynebu unrhyw doriadau i'r gwasanaeth.