Oedd heddlu cudd yn rhan o grwpiau glowyr yn ystod y streic?
- Cyhoeddwyd
A wnaeth yr heddlu lwyddo i sleifio plismyn cudd i mewn i Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod streic y 1980au?
Dyna yw'r cwestiwn mae cyn-lowyr yn gobeithio fydd yn cael ei ateb fel rhan o ymchwiliad cyhoeddus i blismona cudd yn y DU.
Am flynyddoedd mae cymunedau glofaol wedi credu bod ysbïwyr yr heddlu yn gweithredu yng Nghymru yn ystod streic 1984-85.
Dywedodd un cyn-aelod o'r undeb wrth BBC Wales Investigates ei fod yn ymwybodol fod o leiaf un person wedi gadael Cymru yn ddisymwth ar ddiwedd y streic.
Cafodd grŵp cudd ei ffurfio gan Heddlu Llundain yn 1968 gyda'r bwriad o gael mynediad at grwpiau protest - yr enw oedd y Special Demonstration Squad (SDS).
Pan ddaeth i'r amlwg yn 2013 bod yr SDS wedi ysbïo ar deulu'r llanc gafodd ei lofruddio yn Llundain, Stephen Lawrence, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd - Theresa May - sefydlu ymchwiliad i reolaeth plismona cudd.
'Bygythiad enfawr'
Mae'r NUM wedi cael statws canolog yn yr ymchwiliad, yn ogystal â mudiadau fel Greenpeace, Reclaim the Streets a Rhwydwaith Anarchaidd Caerdydd.
Mae'r mudiadau canolog yma yn rhoi tystiolaeth gyda'r gobaith o ddarganfod os oedd yr heddlu wedi ysbïo arnynt, neu i ba raddau.
Dywedodd un cyn-aelod dylanwadol o'r NUM ei fod yn credu bod llond llaw o swyddogion arbenigol wedi bod yn weithredol yng Nghymru yn ystod streic y glowyr.
Mae Tyrone O'Sullivan, cyn-ysgrifennydd cangen, yn credu bod swyddogion wedi bod yn bwydo gwybodaeth i'r heddlu, ac yn y pen draw, y llywodraeth.
"Ro'n i'n fygythiad enfawr [i'r llywodraeth]. Fe wnaethon wario biliynau i'n trechu ni," meddai.
"Fe wnaethon nhw wrando ar ein ffonau, sleifio i mewn.
"Nid oedd hynny oherwydd y streic, dechreuodd flynyddoedd ynghynt."
Ychwanegodd bod swyddogion wedi bod yn "rhan o'r gymuned" am flynyddoedd cyn y streic.
Mae Mr O'Sullivan, sydd bellach yn Gadeirydd ar Goitre Anthracite Ltd - y cwmni sy'n berchen Glofa'r Tŵr ger Hirwaun - yn dweud bod ganddo amheuon cryf am un unigolyn, nad yw'n ei enwi.
"Yn sicr nawr, ar y pryd na, ond gyda beth ddigwyddodd ar ôl y streic o'n i'n meddwl bod rheswm am hyn.
"Gadawodd e'n rhy fuan... Gadawodd e fenyw ar ôl gwneud cymaint o addewidion iddi."
'Tanseilio glowyr'
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod e wedi'i drefnu'n dda iawn - nid y PC cyffredin oedd e.
"Roedd hwn yn fudiad llawer mwy.
"Roedd y bobl yma wedi eu hyfforddi'n fwriadol nid yn unig i danseilio glowyr ond i sleifio i mewn i bopeth."
Un oedd yn flaenllaw yn ymgyrch y glowyr oedd cyn-Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Abertawe, Sian James, sy'n teimlo bod y llywodraeth wedi "cynllunio ers sbel hir i chwalu'r glowyr" ac felly "ddim yn synnu bod hi wedi defnyddio pob arf" oedd ar gael.
"Roedden ni'n defnyddio geirfa cudd, fel cod, pan o'n i'n siarad gyda'n gilydd ar y teleffon os o'n i'n trefnu pethau, achos o' chi'n clywed clics, whirrs, chwibau od ar eich ffon.
"Dwi byth wedi clywed nhw o'r blaen, nag wedi clywed nhw ar ôl 'ny.
"A unwaith o' chi'n cydnabod bo' nhw'n gwrando arno chi, o' chi'n gweud rhywbeth fel 'Have you been listening for long enough now?' neu rhywbeth debyg bydde chi'n clywed clic uchel ble o'dd rhywun wedi dodi y linell lawr..."
'Hawl protestio'
Ychwanegodd bod protestio a phicedu yn hawl i'r rhai oedd yn streicio ac yn rhan o ddemocratiaeth, ac felly yn "sioc fawr gweld sut o'dd y llywodraeth yn fodlon defnyddio popeth yn erbyn ni".
"Ble o'dd ein hawliau ni i brotestio, yn daclus ac yn heddychlon?"
Nid oedd Heddlu Llundain am wneud sylw ar honiadau'r NUM, gan eu bod yn rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus.
Does dim disgwyl i'r ymchwiliad, ddechreuodd yn 2015, adrodd ei ganfyddiadau nes 2023.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018