Prosiect i oroesi canser ceg y groth

  • Cyhoeddwyd
Researcher with microscopeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw cael mwy o ferched i oroesi canser y groth

Mae prosiect ymchwil £2.6m yn Abertawe yn anelu i gael mwy o ferched i oroesi canser y groth.

Canser y groth yw'r chweched math mwyaf cyffredin yn y DU. Bob blwyddyn mae 7,000 achos newydd ac wedi i'r canser ledu dim ond 5% sy'n byw am bum mlynedd.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall nifer yr achosion godi 15% yn ystod yr 16 mlynedd nesaf os nag yw triniaeth yn datblygu'n sylweddol.

Bydd prosiect sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe yn arbrofi gyda genynnau er mwyn ceisio dod o hyd i driniaeth.

'Angen triniaeth yn fuan'

Dywedodd un o'r prif ymchwilwyr Dr Lewis Francis: "Mae epigeneteg yn ymwneud â newidiadau cemegol i DNA a phroteinau cysylltiedig ac mi allai arwain at enynnau yn cael eu troi ymlaen neu i ffwrdd.

"Mewn rhai achosion, mi all hyn fynd o'i le ac mi all arwain at haint."

Rhan o'r gwaith fydd datblygu cyffuriau i reoli newid yn y genynnau a thargedu yn benodol celloedd canser ofaraidd.

Mae'r prosiect wedi derbyn £1.2m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Dr Deyarina Gonzalez o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: "Mae canser ofaraidd yn cael ei gysylltu'n gyson gyda diagnosis hwyr ac y mae hyn yn golygu bod triniaeth effeithiol a buan yn hynod bwysig.

"Mae'r prosiect hwn yn gam pwysig i dargedu celloedd canser ofaraidd ac yn anelu i leihau sgil effeithiau cemotherapi."

Symptomau canser y groth

  • Teimlad o chwyddo parhaol

  • Teimlo'n llawn a ddim eisiau bwyd

  • Poen yn y bol ac/neu yn is

  • Angen pasio dŵr yn gyson

  • Dolur rhydd neu bod yn rhwym

  • Blinder ofnadwy

  • Colli pwysau'n sydyn

  • Mae angen siecio unrhyw waedu wedi diwedd y misglwyf

Ffynhonnell: GIG