Rhybudd melyn am wyntoedd 65mya i Gymru gyfan
- Cyhoeddwyd
Mae gwyntoedd cryf a glaw yn dechrau achosi trafferthion i deithwyr mewn rhannau o Gymru wrth i Storm Gareth anelu am y DU.
Bu'n rhaid cau Pont Hafren am gyfnod bore Mawrth, cafodd hediadau o faes awyr Caerdydd i Gaeredin a Belffast eu gohirio, ac mae'r tywydd wedi effeithio ar wasanaethau fferi o Ddoc Penfro a Chaergybi i Rosslare a Dulyn.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am wynt dros Gymru gyfan gan ddarogan gwyntoedd hyd at 65mya.
Mae'r rhybudd yn dod i rym o 12:00 ddydd Mawrth - naw awr yn gynharach nag a gyhoeddwyd yn wreiddiol - ac yn parhau nes 15:00 ddydd Mercher.
Yn Sir Conwy, mae'r B5106 ar gau yn ardal Glan Dulyn ger Tal-y-bont oherwydd llifogydd.
Mae Traffig Cymru'n rhybuddio bod y tywydd yn gwneud amodau yn anodd i yrwyr ar yr A55 ar draws y gogledd ac ar yr M4 rhwng cyffyrdd Pencoed a Meisgyn.
Gwynt 65mya
Dywed y Swyddfa Dywydd bod disgwyl hyrddiadau hyd at 55mya mewn ardaloedd mewndirol, a 65mya ar arfordir y gorllewin.
Gall hynny olygu rhagor o drafferthion trafnidiaeth gyhoeddus ac oedi ar y ffyrdd, yn ogystal â thoriadau posib i gyflenwadau trydan mewn mannau.
Oherwydd y gwyntoedd bu'n rhaid cau Pont Hafren am 04:15 ond mae'r lôn ddwyreiniol bellach wedi ailagor ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio i'r M4 a Phont Tywysog Cymru.
Mae teithwyr oedd wedi bwriadu croesi Môr Iwerddon yn cael cyngor i gadw golwg am y wybodaeth ddiweddaraf gan gwmnïau StenaLine ac Irish Ferries.
Bu'n rhaid gohirio lansiad swyddogol gwasanaeth fferi newydd dros Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin oherwydd y tywydd garw a bydd bellach yn digwydd ym mis Mai.