Barcud prin yn cael ei gofnodi yn ardal Machynlleth
- Cyhoeddwyd
Mae barcud coch, sy'n wyn i gyd, wedi ei weld gan bobl yn Abercegir, ger Machynlleth.
Does dim cofnod unigol o farcud gwyn yn magu cywion, ac maen arbennig o brin gweld barcud o'r fath.
Yn ôl adarwr lleol, mae'r barcud yn edrych fel un gwyn neu leucist yn hytrach na un claerwyn neu albino. Er, mae hi'n amhosib cadarnhau hynny heb astudio'r aderyn yn agos.
Fe gafodd yr aderyn ei weld gyntaf ddydd Mawrth diwethaf, ac mae sawl un wedi gweld y rhyfeddod yn yr ardal.
Bwydo'r defaid oedd Sioned Thomas, pan welodd hi'r aderyn gyntaf.
"Nes i weld yr aderyn mawr gwyn yma, reit uwch fy mhen i. Oedd o'n sefyll allan, am ei fod yn hollol wyn."
"O'n i'n meddwl mai gwylan oedd hi i ddechrau, cyn i fi weld fforch yn ei chynffon hi.
"Nes i feddwl wedyn, ei fod yn debyg iawn i farcud. Dwi erioed wedi gweld y fath beth o'r blaen.
"Mae bobl wedi dweud wrtha'i ei fod yn edrych fel barcud gwyn, sy'n beth prin iawn yng Nghymru.
"Nath Iolo Williams ddweud wrthai fod o heb weld barcud mor wyn â hyn o'r blaen, a'i bod hi'n amhosib dweud o'r fideo os mai un claerwyn oedd o neu beidio."
Mae rhai yn honni bod barcutiaid gwyn i'w gweld gerllaw yn Aberangell a Mallwyd hefyd.
Barcud anghyffredin
Ar ôl gweld tystiolaeth o'r aderyn ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd y naturiaethwr Iolo Williams ei fod yn edrych fel "barcud gwyn".
"Dwi'n meddwl mai barcud gwyn ydi hwn," meddai.
"Mae 'na lond llaw o farcutiaid golau iawn o gwmpas y wlad ond dwi erioed wedi gweld un mor wyn â hwn."
"Mae aderyn claerwyn, sef albino, yn hynod o brin ond mae'n amhosibl dweud o'r fideo os mae albino ydi hwn."
Un arall sy'n ymddiddori mewn barcutiaid coch ydy Elfyn Pugh, sy'n byw ger Machynlleth.
"Mae gweld barcud gwyn yn yr ardal yma yn anghyffredin iawn.
"O be dwi'n gofio o'r cyfnod bues i'n cofnodi barcutiaid, dim ond chwech oedd yng Nghymru ar y pryd, sef tua 1 mewn 300.
"Bosib eu bod nhw'n fwy prin rŵan.
"I fi, mae barcud gwyn yn aderyn sydd â genetic defect. Byddai'n well efo fi bod y rhai gwyn yn marw allan."