129 o swyddi yn Llanelwy mewn perygl
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o swyddi yn y fantol yn Llanelwy wedi i gwmni, sy'n arbenigo mewn nwyddau electroneg, ystyried cau'r safle yno.
Cyhoeddodd Honeywell (MK Electric) eu bod yn dechrau ar gyfnod ymgynghori o 45 diwrnod i drafod cau'r safle gynhyrchu yno.
Mae 129 o staff llawn amser yn gweithio i Honeywell yno, yn ogystal â nifer o staff asiantaeth.
Yn ôl yr undeb Unite, roedd yn gyhoeddiad "hollol annisgwyl" ac mae'r Aelod Seneddol lleol wedi dweud y bydd cau'r safle yn "newyddion ofnadwy" i'r gymuned leol.
'Ddim i wneud â Brexit'
Yn ôl datganiad gan gwmni Honeywell, eu bwriad yw symud y gwaith o'r safle yn Llanelwy er mwyn "cryfhau eu prif brosesau cynhyrchu mewn llai o leoliadau".
"Yn anffodus, rydym yn sylweddoli bod hyn yn effeithio ar ein gweithwyr ac rydym wedi ymrwymo i fod yn agored i gyfathrebu yn ystod y cyfnod ymgynghori," meddai.
Yn ôl y cwmni, y bwriad yw cynnig i'r gweithwyr symud i safleoedd eraill yn y DU - naill ai yn Surrey, Essex neu Helsby - neu i safleoedd eraill dramor.
Yn ogystal, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y penderfyniad "yn bendant" yn ddim byd i wneud â Brexit.
'Ergyd fawr'
Mae'r AS lleol, Chris Ruane, wedi dweud ei fod yn "newyddion ofnadwy" i'r rhai sy'n gweithio yn Honeywell, a'i fod yn ceisio cysylltu gyda rheolwyr y cwmni i drafod y mater.
Yn ôl datganiad gan Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Undeb Unite Cymru, mae'r cyhoeddiad gan Honeywell yn "ergyd fawr i'r gweithlu rhagorol a'r economi yng ngogledd Cymru yn ehangach".
"Mae'r penderfyniad yma'n un hollol annisgwyl, gyda dim ymgynghori na thrafodaeth gydag Unite na'r gweithlu o flaen llaw.
Ychwanegodd Mr Hughes nad oedd Unite yn gweld "unrhyw reswm busnes" tu ôl i'r penderfyniad.