Cymry'n dystion i gyflafan Christchurch

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Elliw Alwen Watts:"Dio jest ddim yn rhwbath 'da chi'n disgwyl fan hyn."

Disgrifiodd un Gymraes ei anghrediniaeth bod cyflafan wedi digwydd yn "ninas ddistaw" Christchurch yn Seland Newydd.

Mae dros 40 o bobl wedi eu lladd a nifer wedi eu hanafu yn dilyn ymosodiad ar ddau fosg yn y ddinas.

Siaradodd Elliw Alwen Watts ar raglen y Post Cyntaf fore Gwener gan ddweud iddi weld sefyllfa "reit erchyll" wrth yrru drwy Christchurch.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi trydar ei gefnogaeth: "Mae pobl #Cymru yn sefyll mewn undod â phobl Seland Newydd heddiw."

Mae Heddlu'r De a Heddlu Dyfed-Powys hefyd wedi datgan eu bod yn bwriadu cynyddu presenoldeb mewn mosgiau Cymru yn sgil y digwyddiad.

'Reit erchyll'

Gan siarad ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Gwener, disgrifiodd Elliw Alwen Watts yr hyn a welodd wrth yrru i Christchurch.

"O'n i'n dreifio i'r dre ar y pryd... deud y gwir o'n i newydd adael tŷ a dyma fi'n clywed wbath ar y radio, wbath Christchurch, rwbath saethu, a nes i jest ddim meddwl dim byd o'r peth achos dio jest ddim yn rhwbath sy'n digwydd yn fan hyn.

"Ac wedyn pan o'n i'n agosáu at y dre, o'dd 'na andros o draffig, seirens heddlu ac ambiwlansys yn dod o bob cyfeiriad, a nes i ddreifio heibio wedyn lle'r oedd yr ymosodiad cyntaf wedi digwydd, a jest lot o heddlu a ballu o gwmpas.

"O'dd o'n reit erchyll deud y gwir, mae jest yn ofnadwy meddwl bo rhwbath felly 'di digwydd mewn dinas ddistaw fel hyn."

'Jest ddim yn digwydd yma'

Dywedodd bod y sefyllfa yn well erbyn hyn, ond bod heddlu'n annog pobl i aros adref.

"Mae petha bach gwell erbyn ŵan," meddai. "Mi oedd plant a ballu wedi eu cau mewn ysgolion, a'r canol i gyd 'di bod ar lockdown 'lly, sneb yn cael symud a ballu, ond mae pawb 'di cael mynd adre at eu teuluoedd rŵan.

"Be sy'n drist ydy mae 'na rai pobol dal ar goll."

Dywedodd Elliw fod y llu yn paratoi rhag ofn bydd digwyddiad tebyg yn rhyw le arall yn y wlad.

"Mae 'na dristwch mawr dros y wlad, pawb mewn sioc."

"Dydio ddim yn rhwbath 'da chi'n disgwyl fan hyn, dio jest ddim yn rhwbath sy'n digwydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Credir i 49 o bobl cael eu lladd ac i o leiaf 20 gael eu hanafu

Mae Ieuan Davies ar wyliau yn Christchurch adeg y gyflafan, ac yn gobeithio dychwelyd yn ôl i Ffair Rhos ddydd Sadwrn.

"O beth fi'n clywed ar hyn o bryd, mae popeth wedi cael ei gloi lawr," meddai.

Dywedodd Mr Davies wrth raglen Taro'r Post ddydd Gwener fod yna heddlu arfog yn y maes awyr, a bod nifer "ddim yn hollol siŵr pryd byddan nhw yn hedfan oherwydd mae popeth yn cael ei ddal 'nôl".

Esboniodd mai'r bwriad gwreiddiol oedd aros mewn gwesty yn Hagley Park, "mwy neu lai lle'r oedd pob dim yn digwydd".

Petaent wedi mynd i'w gwesty yn gynt, fel yr oeddent wedi bwriadu, dywedodd Mr Davies y byddai'n bosib y byddai yntau a'i deulu wedi bod yng nghanol y gyflafan.

Cymuned gref

Mae Adrienne Edwards yn byw yn Christchurch, a dywedodd hithau i'r cyfan ddigwydd wrth iddi aros i'w phlant ddod allan o'r ysgol.

"Roedd neges wedi dod yn dweud bod rhaid cau drysau yn yr ysgolion a dyna ble roedden ni am oriau yn aros i bethau orffen. Doedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd 'mlaen, dyna'i gyd oedden ni wedi clywed oedd bod rhywun yn lladd pobl yn y mosg ac yn y dre," meddai.

"Roedd yr athrawon yn yr ysgol yn amazing. Maen nhw'n practeisio lockdown yn yr ysgol."

Disgrifiodd Ms Edwards iddi hi a'r rhieni eraill ymuno gyda'r plant, ac i'r athrawon roi'r teledu ymlaen i ddiddanu'r plant.

Yn ôl Ms Edwards, bu'n rhaid iddyn nhw aros yno am bedair awr.

"Mae'r gymuned yn gryf iawn yn Christchurch achos y daeargryn," meddai. "A gobeithio y bydd pawb nawr yn tynnu at ei gilydd a dod trwy hyn eto."