Cofnodi hanes ysbyty milwyr Gwlad Pwyl yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Hanes hen ysbyty ar gyfer milwyr wedi'r Ail Ryfel Byd a ddaeth yn wersyll i'r gymuned Bwylaidd yw testun arddangosfa dairieithog sy'n agor yn Amgueddfa Wrecsam ddydd Llun.
Rhan o ysbyty milwrol Americanaidd oedd adeiladau'r ysbyty ym mhentref Llannerch Banna yn wreiddiol, ond wedi ymadawiad yr Americanwyr ar ddiwedd y rhyfel fe ddaeth yn gartref i Bwyliaid a gyrhaeddodd yn 1946 wedi taith hir ac anodd ar draws cyfandir Ewrop ar ôl brwydro yn erbyn y Natsïaid a Byddin Goch yr Undeb Sofietaidd.
Roedd ar agor tan 2002, ac yn ei anterth, roedd yna dros 2,000 o gleifion a staff yno.
Dywedodd curadur yr arddangosfa, Jonathon Gammond ei fod yn le "unigryw, fel rhyw wlad hud a lledrith Bwylaidd" oedd yn cynnwys sinema, capel a chlwb hamdden.
"Roedd fel pentref o fewn pentref... er roedd yn gymuned gaeëdig, doedd dim mur o'i chwmpas... roedd yna lawer o briodasau [ag aelodau'r gymuned leol] yn y cyfnod cynnar."
Serch hynny, mae'n dweud mai "prin iawn" oedd y sylw ym mhapurau lleol y cyfnod i'r ffaith bod Pwyliaid wedi cyrraedd Llannerch Banna.
Cafodd yr arddangosfa Gymraeg, Saesneg a Phwyleg ei chreu gyda chymorth cyn-drigolion y gwersyll, ac mae yna fwriad i drefnu aduniad o gyn-aelodau staff a theuluoedd ym mis Mai.
Mae'n cynnwys hanesion llafar ynghyd â detholiad o ffilmiau sine gafodd eu recordio yn y 1960au gan fachgen yn ei arddegau, Andy Bereza a gafodd ei fagu yn y gwersyll gan fod ei dad yn feddyg yno.
Mae'r safle, medd Jonathon Gammond, wedi cael ei ddisgrifio fel "Gwlad Pwyl o'r cyfnod cyn y rhyfel yng nghanol Cymru" - cyn i Gomiwyniddaeth newid ei chymeriad.
Mae rhannau o'r safle wedi eu hailddatblygu ers 2002, ac mae yna ymgyrch i warchod yr adeiladau sy'n dal i sefyll, gan gynnwys y clybiau cymdeithasol gwreiddiol.
"Pe byddai'r adeiladau'n cael eu dymchwel fe fydden ni'n colli cyfle i'w gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a chyflwyno hanesion y cleifion a'r staff yno," meddai arweinydd yr ymgyrch, Claire Lewis - merch nyrs oedd yn gweithio yna rhwng y 1970au a'r 1990au.
"Fe fyddai'n colli cyfle i ddathlu'n hetifeddiaeth Gymreig a Phwylaidd a rhan gogledd Cymru yn yr Ail Ryfel Byd."
Yn ôl Mr Gammond fe allai'r arddangosfa, sy'n para tan 22 Mehefin, apelio at Bwyliaid sydd wedi ymgartrefu yn yr ardal wedi i Wlad Pwyl ymuno âr Undeb Ewropeaidd yn 2004.
"Ar hyn o bryd, mae'n amhosib osgoi ein perthynas ag Ewrop... Mae hwn yn esiampl ddiddorol o sut mae hanes cenedlaethol, rhyngwladol a lleol y clymu â'i gilydd ar un safle, sy'n eitha' unigryw yma yn Wrecsam.
"Mae ei syniadau ynghylch hunaniaeth... sut 'dach chi'n llwyddo mewn gwlad wahanol; sut 'dach chi'n derbyn mewnfudwyr; sut 'dach chi fel mewnfudwr yn dod ymlaen â'r bobl leol... mae yna gymaint o themâu sy'n atseinio heddiw."