Cymro i gynrychioli Manchester United ar gêm gyfrifiadurol

  • Cyhoeddwyd
Josh JonesFfynhonnell y llun, Josh Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Josh Jones i ennill allan o 2,000 o gystadleuwyr yn Old Trafford

Mae cefnogwr pêl-droed o Fynydd Llandygai ger Bangor ar fin gwireddu breuddwyd a chynrychioli un o glybiau mwya'r byd drwy chwarae gêm gyfrifiadurol FIFA 19.

Bydd Josh Jones, 17 oed, yn cynrychioli Manchester United yn rownd derfynol yr ePremier League yn Llundain ddydd Mercher.

Llwyddodd i ennill cystadleuaeth yn erbyn 2,000 o bobl, drwy chwarae yn erbyn nifer o gefnogwyr Manchester United ar Xbox.

Dywedodd Josh wrth Cymru Fyw: "Mae hi'n fraint cael cynrychioli Man U, oherwydd dwi wedi bod yn eu cefnogi nhw ers i mi fod yn fach iawn."

'Oriau o ymarfer'

Bydd gan yr 20 tîm sy'n cystadlu yn Uwch Gynghrair Lloegr gynrychiolydd yn y gystadleuaeth, fydd yn gobeithio cipio'r wobr a dod yn bencampwr.

Ychwanegodd Josh ei bod yn "gystadleuaeth anodd iawn, gyda sawl chwaraewr da".

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh yn ymarfer am sawl awr yn ei ystafell wely

"Dwi'n ymarfer am lot o oriau pob dydd yn ystod yr wythnos, ac yn cymryd rhan mewn twrnaments ar lein bob penwythnos," meddai.

"Mae hi'n helpu fy mod yn adnabod chwaraewyr Man Utd mor dda ac yn gwybod am eu cryfderau a'u gwendidau.

"Mae gen i docyn tymor yn Old Trafford a dwi wedi bod yn cefnogi Man U ers i mi fod yn fach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Josh ei bod hi'n "anrhydedd" cael cynrychioli'r clwb mae'n ei gefnogi

Bydd y rownd derfynol yn Llundain yn digwydd dros gyfnod o ddeuddydd.

Yno, bydd y chwaraewyr yn cael eu rhannu i grwpiau ac yn chwarae dwy gêm yn erbyn eu gwrthwynebwyr, gyda'r enillwyr yn symud 'mlaen yn y gystadleuaeth.

'Dwi jest yn dda'

Er i Josh chwarae pêl-droed pan oedd yn iau, mae'n bodloni bellach ar reoli'r chwaraewyr ar Xbox.

"Dwi'n hoffi chwarae FIFA oherwydd mae fy ffrindiau i gyd yn ei chwarae o, a dwi jest yn dda ynddo fo - mae hynny'n helpu!" meddai.

Gobaith Josh yn y gystadleuaeth yw gwneud ei orau ac mae'n edrych ymlaen at gael herio rhai o'r chwaraewyr gorau ym Mhrydain.

"Dwi am fynd lawr i Lundain a gwneud fy ngorau dros Man U, a gawn ni weld os fydd hynny ddigon da i ennill a bod yn bencampwr," meddai.