Organ hynafol i'w chlywed unwaith eto yn Eglwys Sant Tysul
- Cyhoeddwyd
Mae organ eglwys yng Ngheredigion sydd wedi bod yn dawel am 10 mlynedd i'w chlywed unwaith eto - diolch i apêl i gasglu arian.
Roedd yr organ yn Eglwys Sant Tysul yn Llandysul wedi dirywio i'r fath gyflwr fel nad oedd modd ei defnyddio ac yn 2006 sefydlwyd apêl i'w hadfer.
Yn wreiddiol y gred oedd y byddai'r gost i'w hatgyweirio tua £80,000.
Dywed y Parchedig Gareth Reid er gwaethaf ymdrech fawr roedd yn anodd cyrraedd y nod, ond yn ffodus ar ôl ailasesiad o'r difrod roedd y gost yn llai, ac roedd modd bwrw 'mlaen â'r prosiect.
"Mae'i chael hi 'nôl yn gweithio yn rhywbeth arbennig."
"Mae'n rhoi gobaith i'r dyfodol," meddai.
"Mae posibilrwydd o gael cyngherddau a hefyd falle, pwy a ŵyr, corau i ddod i berfformio ac i ni ar y Sul i dyfu yn yr hyn ry ni'n ei wneud ac efallai ein niferoedd."
Fe ddechreuodd y gwaith o adfer yr organ yn haf 2018.
Mae 2019 yn nodi 120 o flynyddoedd ers i'r organ gael ei gosod yn yr adeilad 1899.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017