Cyfarfod i geisio adfer llewyrch Llandysul
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 100 o bobl ynghyd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llandysul nos Wener i drafod yr heriau sy'n wynebu'r dre' wrth i'r banc olaf baratoi i gau ei ddrysau ddiwedd y mis.
Mae'r swyddfa bost a nifer o siopau eisoes wedi gadael y Stryd Fawr.
Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan Blaid Cymru, ac roedd yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones a'r Aelod Seneddol, Ben Lake yn bresennol yn y cyfarfod.
Dywedodd Ms Jones, sydd wedi cynrychioli'r Ceredigion ers 1999, fod angen creadigrwydd er mwyn ceisio denu rhai o'r ymwelwyr sy'n heidio at arfordir Ceredigion i alw yn Llandysul.
"Gallwn ni gyd benderfynu eistedd 'nôl a gwneud dim a gadael iddo ddigwydd, neu ydym ni yn ymateb mewn ffordd fwy creadigol na hynny a gweld beth yw'r cyfleoedd a beth yw barn pobl yn lleol am sut ma' nhw eisiau gweld Llandysul yn yr ail ganrif ar hugain.
"Rydym yn gwybod fod twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i rhai o'n trefi arfordirol ni a sut mae ardal fel Llandysul a threfi eraill yn Nyffryn Teifi yn gallu manteisio rhywfaint ar y llewyrch."
Mae grŵp Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen yn ceisio cynnal gwasanaethau yn yr ardal.
Mae swyddog cymunedol gyda'r grŵp, Ann Jones yn dweud fod pethau wedi dirywio yn y dre' yn ddiweddar.
Dywedodd: "Erbyn diwedd y mis bydd y banc wedi mynd ac yn anffodus mae gennym ni ddau fanc lan yr hewl sydd yn wag ac wedi cael eu gwerthu ond does dim byd wedi digwydd iddyn nhw a dyw hynny ddim yn beth da i'r pentre'.
"Di ddim yn awyrgylch dda i'r pentref i weld llefydd gwag."
Yn ôl un perchennog siop, Beth Jones, mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd i ardaloedd fel Llandysul.
"Ni'n dangos dipyn drwy Facebook nawr ac wedyn mae pobl yn ymateb drwy Facebook a ni'n credu bo' ni wedi denu mwy o bobl ifanc mewn yn hytrach na rhai hynach, ond dyna'r byd ni'n byw ynddo, y digidol.
"Ma' lot o bobl yn gwneud bancio ar-lein, fi hunan yn ei wneud e' a dyna'r byd ni'n byw ynddo a rhaid symud ymlaen a gwneud defnydd ohono fe."
Roedd y rhai wnaeth fynychu'r cyfarfod nos Wener yn teimlo bod yn rhaid wynebu'r her yn fuan er mwyn osgoi dirywiad pellach.