Ymchwil newydd i drin Fragile X

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gobaith creu cyffur newydd i drin Fragile X

Mae mam o Ynys Môn wedi dweud ei bod hi'n "edrych ymlaen" at weld pa gyffuriau newydd sy'n cael eu datblygu gan wyddonwyr yng Nghaerdydd allai helpu cyflwr geneteg ei mab.

Ddydd Gwener, fe gafodd Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ei lansio ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dilyn buddsoddiad o bron i £14m.

Maen nhw eisoes wedi cael grantiau er mwyn ceisio datblygu cyffuriau newydd i drin cyflyrau niwrolegol ac iechyd meddwl.

Un o'r rheiny yw Fragile X, syndrom geneteg sydd yn gallu achosi anableddau dysgu.

Llynedd, fe gafodd Helen Buckley wybod bod gan ei mab hi, Mikie, y cyflwr. Roedd hi'n cario'r gennyn, ond ddim yn ymwybodol o hynny.

Mae'n golygu bod Mikie, sydd bellach bron yn dair oed, yn datblygu'n arafach na phlant eraill o'r un oed, ac yn cael trafferth siarad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Buckley yn gobeithio bydd ymchwil Prifysgol Caerdydd yn datblygu rhywbeth i helpu ei mab

"Oeddach chi'n gallu dweud bod 'na rywbeth oedd ddim cweit yn iawn," meddai Helen, sydd yn byw ym Mhentraeth.

"Roedd o'n slow yn datblygu, roedd o'n cael trafferth efo pethau roedd plentyn i fod i bigo fyny reit sydyn, fel ista i fyny, cerdded, bablan - doedd o ddim yn bablan chwaith.

"Felly naethon ni sylwi, ac es i 'nôl at health visitor... naethon ni gael y profion gwaed, a chanfod bod ganddo fo Fragile X syndrome."

Er bod rhai o symptomau'r cyflwr yn debyg i awtistiaeth, dydy o ddim yn union yr un peth a dyw hi ddim yn glir chwaith sut y bydd hynny'n newid yn y dyfodol.

"'Dan ni byth yn gwybod yn y dyfodol faint mae'n mynd i effeithio fo chwaith, 'dan ni jyst yn gorfod disgwyl gweld," ychwanegodd Helen.

Mynd at wraidd cyflwr

Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ydy'r diweddaraf mewn cyfres o fuddsoddiadau mewn ymchwil meddygol yng Nghaerdydd, gan gynnwys canolfan ymchwil dementia a chanolfan CUBRIC yn ymchwilio i'r ymennydd.

Yn ogystal â'r grant o £2.5m i ymchwilio i Fragile X, mae'r sefydliad hefyd wedi derbyn £3.4m i barhau i geisio datblygu meddyginiaeth gor-bryder sydd a llai o sgil effeithiau.

"Mae'n hollbwysig ein bod ni ddim yn labelu problemau iechyd meddwl fel problem neu drafferth mewn rhyw ffordd," meddai'r Athro Simon Ward, cyfarwyddwr y Sefydliad.

"Ond pan ni'n deall bod gennyn ar goll sy'n achosi rhwydwaith o broblemau tu mewn i'r ymennydd, mae'n bosib i ni sylweddoli ein bod ni'n gallu helpu cywiro gwraidd y broblem."

Disgrifiad o’r llun,

Pwysleisia'r Athro Simon Ward ei fod yn awyddus i "helpu'r rheiny sy'n dioddef" o gyflyrau fel Fragile X

"Wrth wneud hynny gallwn ni helpu'r rheiny sy'n dioddef, sydd â Fragile X, i ganolbwyntio'n well, i gael bywydau llawn."

Ar hyn o bryd mae Mikie yn rhy ifanc i gymryd meddyginiaeth ar gyfer ei gyflwr, ond mae ei fam yn awyddus i weld rhagor o ymchwil yn cael ei wneud os all hynny ei helpu yn y dyfodol.

"Does 'na ddim cyffur allan yna jyst ar gyfer Fragile X," meddai.

"Mae 'na bethau sy'n gallu helpu nhw, ond efo rhywbeth fel y [nam] protein [yn yr ymennydd] mae'n rhywbeth gwahanol.

"Felly dwi'n edrych ymlaen at weld beth mae hyn [yr ymchwil] yn dod i fyny. Os mae'n gallu helpu Mikie bach fi, wedyn plîs helpwch o."