Cofio'r hyfforddwr a beirniad cerdd dant, Dan Puw

  • Cyhoeddwyd
Dan Puw

Bu farw Dan Puw, un o ffigyrau amlycaf y byd cerdd dant.

Er mai fel ffermwr y bu'n ennill ei fara menyn yn Y Parc ger Y Bala, roedd yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin.

Roedd yn un o hoelion wyth y Gymdeithas Gerdd Dant, yn aelod ers ei 20au.

Am flynyddoedd lawer fe fu'n hyfforddi cantorion yr ardal ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Gerdd Dant.

Bu parti Meibion Llywarch yn llwyddiannus iawn dan ei ofal, gydag amryw o'r aelodau yn llwyddo fel unawdwyr, ac roedd hefyd yn arwain Aelwyd yr Urdd yn y pentref am 15 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dan Puw oedd enillydd Medal Syr T H Parry-Williams yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017

Mr Puw oedd enillydd Medal Goffa Syr T H Parry-Williams yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'w ardal leol, ac yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc.

Hefyd fe dderbyniodd Fedal Gee am ei wasanaeth i'r Ysgol Sul yn y capel lle roedd yn athro am flynyddoedd.

Roedd yn ei 80au ac roedd ei iechyd wedi dirywio ers rhai blynyddoedd.

Dywedodd Huw Antur Edwards, aelod o Feibion Llywarch ac un oedd yn adnabod Dan Puw yn dda: "Roedd cyfraniad Dan yn anhygoel yn lleol ac yn genedlaethol.

"Roedd o'n ddyn mawr, yn ddyn cryf, nid yn unig o ran corff ond o ran yr hyn roedd o'n credu ynddo fo," meddai Mr Edwards ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"O ran steil roedd o'n hollol werinol, gwerinwr oedd Dan a dyna be' oedd o'n credu ynddo fo.

"Roedd ei gefndir yn un cerdd dant, roedd ei wedi ei fagu yn sŵn cerdd dant.

"Mae ei gyfranaid i'r Parc a thu hwnt wedi bod yn anhygoel."