Cwmni offer meddygol yn diswyddo 70 yn ardal Pen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae 70 o bobl wedi cael eu diswyddo wrth i gwmni sy'n cynhyrchu offer meddygol ym Mhen-y-bont ar Ogwr gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Dywed y gweinyddwyr y bydd 20 o staff yn parhau i weithio i Cellnovo tra'u bod yn ceisio dod o hyd i brynwyr newydd.
Mae'r safle ar Barc Technoleg Pencoed yn cynhyrchu pwmpiau inswlin i gleifion sy'n dioddef o glefyd y siwgr.
Dywed y gweinyddwyr, RSM Restructuring Advisory, nad oedd y cwmni yn gallu codi'r buddsoddiad angenrheidiol i barhau i fasnachu.
Mae'r pwmpiau'n cynnwys dyfais sy'n rhoi insiwlin yn rheolaidd ac mewn ffordd fwy cyfleus i gleifion, ac yn rhannu data angenrheidiol cyson am eu cyflwr i aelodau'r teulu a swyddogion iechyd.
Dywed datganiad ar ran y gweinyddwyr bod y teclyn "yn un blaengar ond mae angen ei ddatblygu ymhellach", a bod hynny "wedi cael effaith negyddol ar dwf mewn gwerthiant a'r gallu i godi'r buddsoddiad angenrheidiol".
Bydd y cwmni'n parhau i gyflogi 20 o staff ym Mhen-y-bont ar gyfer y gwaith o ddirwyn y cwmni i ben a rhoi cefnogaeth i gwsmeriaid, ynghyd â helpu dod o hyd i fuddsoddwyr newydd neu werthu'r busnes a'i asedau.
Credir bod tua 180 o gleifion yn defnyddio pwmp Cellnovo yn y DU, a channoedd yn fwy mewn gwledydd tramor.