Canolfan i 'ysbrydoli a rhoi hyder' yn economi'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Adeilad newydd Canolfan STEM
Disgrifiad o’r llun,

Mae roboteg ac electroneg ymhlith y meysydd sy'n cael eu dysgu yn y ganolfan newydd

Mae canolfan peirianneg newydd gwerth £13.6m ar Ynys Môn wedi agor yn swyddogol gyda'r gobaith o ehangu'r sector yng Nghymru.

Canolfan Sgiliau Technoleg Menai (STEM) yn Llangefni yw'r prosiect adeiladu mwyaf yn hanes grŵp Coleg Llandrillo Menai.

Mae'n cynnwys yr adnoddau mwyaf diweddar ar gyfer dysgu cymwysterau amrywiol yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sy'n angenrheidiol i'r sectorau cynhyrchu, adeiladu a chynnal a chadw.

Ond er gwaethaf pryder ynghylch prinder swyddi yn lleol ar ôl i gwmni Hitachi oedi'r holl waith ar gynllun atomfa Wylfa Newydd, mae rheolwyr yn pwysleisio pwysigrwydd hyfforddi pobl ifanc fel rhan o'r ymdrechion i hybu twf economi gogledd Cymru.

'Cydnabyddiaeth genedlaethol'

Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Llandrillo Menai, Dafydd Evans: "Gyda'r cyfoeth o gyfleoedd gwaith posib yn sgil y prosiectau ynni ac isadeiledd sydd dan ystyriaeth ar gyfer gogledd Cymru, fe welson ni gyfle i wneud campws Coleg Menai yn Llangefni yn gampws â chydnabyddiaeth genedlaethol o ran cefnogi diwydiant."

Mae'r diwrnod agored ddydd Gwener, meddai, yn gyfle "i blant weld y ganolfan newydd a'r adnoddau - medru defnyddio pethau digidol, weldio, dyfeisio a chodio - sydd, gobeithio, yn ysbrydoli pobl".

Er bod penderfyniad Hitachi yn "ergyd", dywedodd Mr Evans fod angen bod yn "lot fwy positif".

"Dwi'n credu yn onest os bydd 'na phobl ifanc gyda'r sgiliau yma mi ddaw diwydiant yma," meddai.

"Mae hefyd diwydiannau lleol. Mae 'na ddigon o gyfleoedd ond prinder cenhedlaeth gyda'r sgiliau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yn "gaffaeliad gwych" i'r ynys ac i'r gogledd yn gyffredinol, medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford

Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £7m at y cynllun.

Cafodd y ganolfan ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a ddywedodd bod y cynllun "yn creu dyfodol, yn buddsoddi a'n rhoi hyder" i'r myfyrwyr y bu'n sgwrsio â nhw yn Llangefni.

Mae'r ganolfan, meddai, yn "gaffaeliad gwych i Ynys Môn a'r ardal ehangach".

Ychwanegodd: "Mae yna nifer o heriau o'n blaenau... ond mae datblygiadau fel Canolfan STeM yn fuddsoddiad yn nyfodol Ynys Môn a gogledd Cymru."