100 yn protestio yn erbyn torri arian trochi iaith Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Protest Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros 100 o bobl i'r digwyddiad ar y maes yng Nghaernarfon

Mae dros 100 o bobl wedi mynychu protest yng Nghaernarfon i wrthwynebu toriadau i ganolfannau sy'n trwytho plant yn y Gymraeg.

Roedd y digwyddiad ar y maes ddydd Sadwrn wedi'i drefnu gan ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith.

Mae'r canolfannau yn trochi plant sy'n dod o du allan i'r sir yn y Gymraeg i'w helpu i astudio drwy'r iaith yn yr ysgol.

Oherwydd toriadau i'w gyllideb, mae'r cyngor yn bwriadu tynnu £96,000 oddi ar y nawdd sydd ar gael i'r canolfannau o fis Medi ymlaen.

'Colli Gwynedd fel cadarnle'

Pum canolfan sydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd - yn Nolgellau, Llangybi, Caernarfon, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Mae dros 7,000 o blant wedi mynychu'r canolfannau iaith hyn ers iddyn nhw agor 35 mlynedd yn ôl.

Pe bai'r newidiadau'n cael eu cymeradwyo mae'n debyg o arwain at golli swyddi neu gau un o'r canolfannau.

Opsiwn arall dan ystyriaeth ydy lleihau nifer yr athrawon yn y canolfannau, gan benodi cymorthyddion dysgu yn eu lle.

Disgrifiad o’r llun,

"Fedrith hi ddim mynd lot gwaeth na hyn," yn ôl Angharad Tomos

Dywedodd Angharad Tomos o Gymdeithas yr Iaith bod ganddi "bryder dybryd" ynglŷn â'r toriadau.

"Dwi wedi bod yn mynd o gwmpas ysgolion Gwynedd ers 30 mlynedd, ac wedi gwneud fy ngwaith yn uniaith Gymraeg oherwydd bod plant o'r tu allan yn mynd i'r canolfannau iaith," meddai.

"Maen nhw'n cael eu trochi yn y Gymraeg ac yn dod i'r ysgol yn ddwyieithog.

"Yr ateb dwi'n ei gael gan y cyngor pob tro ydy bod 'rhaid i ni wneud' neu mi eith hi'n ddrwg - ond fedrith hi ddim mynd lot gwaeth na hyn.

"Os nad ydy'r cyngor yn gwneud safiad fe fyddan ni'n colli Gwynedd fel cadarnle i'r Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cabinet y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol ar nawdd y canolfannau ddydd Mawrth

Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn rhagweld cynnydd o £35,000 mewn costau, ac yn wynebu toriad o £61,000 yn y Grant Gwella Addysg y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd cabinet y cyngor, sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru, yn gwneud penderfyniad terfynol ar nawdd y canolfannau ddydd Mawrth.