David Davies: ASau 'angen derbyn cyfaddawd' ar Brexit
- Cyhoeddwyd

David Davies says MPs may need to accept a slower form of Brexit
Bydd gwleidyddion ar ddwy ochr dadl Brexit yn gorfod "derbyn rhyw fath o gyfaddawd", yn ôl AS Ceidwadol o Gymru.
Daeth sylwadau David Davies ar ôl i gynllun Brexit Theresa May gael ei wrthod yn Nhŷ'r Cyffredin am y trydydd tro ddydd Gwener.
Mae'r Prif Weinidog nawr yn ystyried ffyrdd gwahanol o gynnal pleidlais arall ar y Cytundeb Ymadael.
Dydd Llun bydd ASau yn parhau â'u hymdrechion i geisio dod o hyd i ddatrysiad trwy gynnal cyfres arall o bleidleisiau ar nifer o opsiynau gwahanol ynglŷn â Brexit.
'Dim yn siŵr ble allwn ni fynd'
"Rydw i eisiau meddwl yn ofalus am hyn dros y penwythnos," meddai AS Mynwy.
"Rydyn ni oll am orfod cyfaddawdu - mae'n amlwg nad oes unrhyw un am gael yn union beth maen nhw eisiau.
"Oni bai fod y ddwy ochr yn gallu derbyn rhyw fath o gyfaddawd dydw i wir ddim yn siŵr ble allwn ni fynd."
Mae Mr Davies wedi cefnogi cytundeb Mrs May dair gwaith yn Nhŷ'r Cyffredin.

Cafodd cynllun Brexit Theresa May gael ei wrthod yn Nhŷ'r Cyffredin am y trydydd tro ddydd Gwener
Yn y cyfamser, ar ymweliad â Chasnewydd fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn feirniadu'r prif weinidog am ystyried cynnal pleidlais arall ar ei chytundeb.
Dywedodd bod y sefyllfa yn mynd "tu hwnt i hurt".
Fe wnaeth AS Plaid Cymru, Hywel Williams ategu sylwadau Mr Corbyn.
"Byddai unrhyw brif weinidog arall wedi ymddiswyddo erbyn hyn," meddai.
"Ond dydw i ddim yn meddwl ei bod hi'n gwrando. Mae hi'n clywed yr hyn 'da ni'n ei ddweud, ond dydy hi ddim yn gwrando o gwbl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2019