Rhybudd melyn am eira yn rhannau o Gymru fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am eira wedi dod i rym yn rhannau o Gymru.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae eira yn debygol ar dir uchel rhwng 04:00 a 11:00 ddydd Iau ond mae disgwyl iddo ddadmer yn y prynhawn.
Fe allai'r tywydd effeithio ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd ac mae yna gyngor i bobl ganiatáu mwy o amser ar gyfer eu taith.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Mae'r tywydd wedi arwain at "amgylchiadau gyrru peryglus" ar draws y wlad gan gynnwys yr A44 ym Maesyfed, Bwlch y Crimea ym Mlaenau Ffestiniog ac ardal Aberystwyth.
Yn ôl Traffig Cymru, roedd oedi ar yr A465 rhwng Merthyr Tydfil a Hirwaun fore Iau.
Mae sawl ysgol yn Rhondda Cynon Taf bellach wedi cau, dolen allanol oherwydd yr eira.