Ymdrech i leihau damweiniau beic modur yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o asiantaethau yn Sir Gaerfyrddin yn dod at ei gilydd ddydd Sul i geisio lleihau damweiniau beiciau modur.
Yng Nghymru, cafodd 595 o yrwyr beiciau modur eu hanafu yn 2017, sef 9.6% o'r holl bobl a anafwyd ar y ffyrdd.
O'r ffigwr, cafodd 252 eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, a chafodd 343 fân anafiadau. Roedd nifer y marwolaethau 4.5% yn uwch ond nifer yr anafiadau difrifol a mân anafiadau wedi lleihau 1.3% a 15.9% yn y drefn honno.
Bydd swyddogion diogelwch ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin yn siarad â gyrwyr beiciau modur fel rhan o fenter dydd Sul, a bydd swyddogion o asiantaethau partner yn ymuno â nhw yn yr 'Owl's Nest Tea Rooms' yn Llanymddyfri ddydd Sul, 7 Ebrill, i roi gwybodaeth a chyngor.
Yn ogystal, bydd Sefydliad y Gyrwyr Safon Uwch, Gyrwyr a Beicwyr Safon Uwch RoSPA, Motorcycle Action Group Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Gan Bwyll, Gofal Profedigaeth Cruse, Beiciau Gwaed Cymru ac awdurdodau lleol cyfagos i gyd yn bresennol.
Cyrsiau hyfforddi
Mae'r cyngor yn gobeithio annog gyrwyr beiciau modur i gofrestru ar gyfer eu cwrs beiciau modur am ddim, sef Dragon Rider Cymru, sydd ar gael i feicwyr sydd newydd lwyddo yn eu prawf gyrru, pobl sydd wedi cael beic mwy pwerus ac unrhyw un sydd wedi dychwelyd i yrru beiciau modur ar ôl ysbaid.
Fe fyddan nhw hefyd yn hyrwyddo eu cwrs Beiciwr i Lawr! Cymru, sy'n anelu at roi gwybodaeth i bobl ynglŷn â rheoli sefyllfa gwrthdrawiad, a diogelu bywyd, hyd nes i'r gwasanaethau argyfwng gyrraedd. Bydd cardiau CRASH Beiciau Modur hefyd ar gael.
Dywedodd y Cyng. Hazel Evans, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Yn y gorffennol, mae'r digwyddiadau hyn wedi denu nifer fawr o bobl gyda llawer o'r gyrwyr beiciau modur yn gweithio'n agos gyda ni a'n partneriaid.
"Bydd diwrnodau ymwybyddiaeth ychwanegol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, a byddwn yn bresennol mewn digwyddiadau beiciau modur eraill yn y sir.
"Mae lleihau nifer y gyrwyr beiciau modur sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd yn flaenoriaeth gan y cyngor ac asiantaethau partner, ac mae llawer o waith ar y gweill i addysgu gyrwyr beiciau modur a defnyddwyr ffyrdd eraill ynglŷn â diogelwch a sgiliau gyrru/reidio."