Awyrgylch mwy 'gwenwynig' yn y Senedd oherwydd Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Brexit wedi creu awyrgylch "gwenwynig" yn y Senedd ym Mae Caerdydd, yn ôl nifer o Aelodau Cynulliad.
Dywed AC Plaid Cymru, Leanne Wood bod dirywiad amlwg, a bod y dadlau yn y siambr yn llai gwaraidd.
Mae AC Llafur Llanelli, Lee Waters yn credu bod hynny'n adlewyrchu'r hollt yn gyffredinol o fewn cymdeithas yn sgil Brexit.
Mae'n dilyn tair blynedd o ddadlau ffyrnig yng Nhŷ'r Cyffredin ynghylch gadael yr UE.
'Plismyn yn fy nghartref'
Yn y Senedd yn ddiweddar fe gyfeiriodd AC Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies at neges Twitter gan AS Ceidwadol Dwyrain De Cymru, Mark Reckless, oedd yn arfer cynrychioli UKIP.
Roedd y neges yn dweud: "Ennillon ni, fe golloch chi. Os ydych chi'n atal Brexit a democratiaeth, byddwch chi'n medi'r hyn i chi ei hau."
Dywedodd Mr Davies: "Dyma'r ieithwedd sy'n arwain at fygythiadau i fy nghymar [AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin]. Dyma sy'n arwain at blismyn yn fy nghartref, yn gwarchod fy nheulu, ac eich ieithwedd chi sy'n gwneud hynny.
"A thrwy wneud hynny, rydych chi'n tanseilio ein democratiaeth ac fe ddyliech chi fod â chywilydd."
Dywedodd Mr Reckless, a gafodd ei eni yn Lloegr, bod Mr Davies wedi "ymosod" arno am fod yn "ymwelydd", gan ddweud: "Does dim yn cael ei wneud yn ei gylch. Nid dyna yw democratiaeth a nid dyna sut ddylai senedd weithredu."
Mae'n dweud ei fod hefyd yn cael ei sarhau ar Twitter am fod yn Sais ar ôl iddo godi cwestiynau ynghylch newid enw'r cynulliad i'r Senedd.
Bygythiadau
Dywedodd Ms Wood wrth Sunday Politics Wales ei bod wedi cael bygythiadau ar-lein i'w threisio a'i lladd, a bod yr "awyrgylch gwenwynig ar-lein" bellach wedi treiddio i siambr y Cynulliad.
"Mae'n amlwg... mae rhai pobl yn cyhuddo'r Cynulliad o fod yn ddiflas, ond rydyn ni wedi arfer cael dadleuon mwy gwaraidd."
Dywedodd Mr Waters bod yr "awyrgylch gelyniaethus" yn gwneud iddo deimlo'n "anghyfforddus a gofidus".
Ychwanegodd: "Os mae pethau'n suro yn fan hyn mae'n adlewyrchiad o'r gymdeithas ehangach. Mae'n destun pryder oherwydd pan mae hyn i gyd drosodd, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i roi popeth yn ôl at ei gilydd."
Mae'r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones wedi galw ar gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol i newid eu hymarferion, gan ddweud fod rhan helaeth yr ymddygiad sarhaus yn deillio o sgyrsiau ar-lein.
"Mae angen i ni fynd yn ôl i'r wleidyddiaeth arferol...i ddychwelyd i drafodaeth nad sy'n fygythiol," meddai, gan ychwanegu "mai'r peth lleiaf" y gallai'r cwmnïau ei wneud "yw gwarchod pobl fregus ac erlyn" rheiny sy'n cyhoeddi negeseuon bygythiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018